Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

CYMDEITHAS AMAETHYDDOL FRENHINOL CYMRU

Sgroliwch i chwilio

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Yn chwarae rhan flaengar yn natblygiad amaethyddiaeth a’r economi wledig yng Nghymru ers dros ganrif.

Ymunwch â ni ar gyfer ein tri phrif ddigwyddiad ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Sioe Frenhinol Cymru 21-24 Gorffennaf ’25

Ffair Aeaf 25-26 Tachwedd ’25

Gŵyl Wanwyn 16-17 Mai ’26

Ffair Aeaf

Dewch i ddathlu’r Nadolig ac i weld y sioe stoc ddethol orau yn Ewrop ym Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

 

25-26 Tachwedd 2025

Gŵyl Wanwyn

Dathliad o fywyd tyddynod a chefn gwlad.

 

16 & 17 Mai 2026

Sioe Frenhinol Cymru

Sioe Frenhinol Cymru yw uchafbwynt calendr digwyddiadau amaethyddol Prydain, ac mae’n cynnwys pedwar diwrnod o gystadlaethau, adloniant ac atyniadau.

21-24 Gorffennaf 2025

Priodasau

Priodasau – Seremonïau – Derbyniadau – Dathliadau

 

Gyda’r Hwyr Mae maes y sioe yn lle delfrydol i gynnal eich diwrnod arbennig – beth bynnag fo’r math o briodas rydych chi’n ei chynllunio, mae rhywbeth ar gael i bawb yma.

Ymwelwyr

Gall ymwelwyr weld a gwneud cymaint o bethau. Darganfyddwch yr holl wybodaeth hanfodol yma...

Stondinau masnach

P'un ai a ydych chi'n dymuno dod â stondin neu gwneud rhywfaint o siopa, mae maes y sioe yn lle delfrydol.

Cystadleuwyr

Mae gennym ni filoedd o gystadlaethau gwahanol sy'n cael eu cynnal ar draws pob un o'n tri digwyddiad.

Noddwyr

Ymunwch â Thîm Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru trwy ddod yn un o'n noddwyr gwych.

Maes Carafanau Wernfawr

Mae ein llety oddi ar y safle, Maes Carafanau Wernfawr, wedi ei leoli dim ond 2 filltir o Faes Sioe Frenhinol Cymru yng Nghilmeri (Cod Post LD2 3NS). Mae pob llain carafanau yn cynnwys cysylltiad trydan, toiledau, cawodydd, safbibellau dŵr a phwyntiau tân. Bydd gwasanaeth bws gwennol i ac o faes y sioe ar waith rhwng 6am a 9pm bob dydd. Os ydych yn aelod o'r Gymdeithas, ewch i dudalen Aelodau er mwyn archebu eich lle.

Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CAFC ar ddydd Gwener 27ain o Fehefin yng Ngholeg Glynllifon, Ffordd Clynnog, Llandwrog, Caernarfon, LL54 5DU am 2:00yp Gall aelodau'r Gymdeithas sicrhau eu lle drwy lenwi'r ffurflen isod

Bob blwyddyn, bydd gennym ni sir nawdd wahanol.

Cyfle Caernarfon yw hi eleni.

Digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar faes y sioe

Fel un o'r safleoedd digwyddiadau gwledig â'r cysylltedd gorau yng Nghymru, mae maes y sioe yn cynnal dros 400 o ddigwyddiadau bob blwyddyn, yn cynnwys cynadleddau, sioeau cŵn, digwyddiadau chwaraeon, ralïau ac arwerthiannau.

Gadewch Rodd Barhaol, cofiwch ni yn eich ewyllys

Rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a adawyd i ni, waeth pa mor fawr neu fach. Mae pob etifeddiaeth a gawn yn helpu i gefnogi cymunedau amaethyddol a gwledig yng Nghymru.