Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dilynwch y gadwyn fwyd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn rhoi cyfle perffaith ac unigryw i ddangos y gadwyn fwyd o’r fferm i’r fforc i blant ysgol a myfyrwyr coleg.

Gan gyffwrdd â sawl agwedd ar y cwricwlwm, mae ymweliad â’r Ffair Aeaf yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am amaethyddiaeth mewn perthynas ag astudiaethau busnes, coginio a maeth, lles anifeiliaid, daearyddiaeth, mathemateg a llawer mwy.

O weld yr anifeiliaid yn eu corlannau, bydd y myfyrwyr yn gallu amgyffred y nifer enfawr o wahanol fridiau – pa un ai’n wartheg, defaid a moch neu’n dda pluog yn y Sioe Ddofednod ar ail ddiwrnod y ffair, bydd cannoedd o wahanol fridiau ar ddangos. Sgwrsiwch â’r ffermwyr a’r arddangoswyr i gael gwybod beth y mae magu’r da byw yn ei olygu.

Nesaf, gwyliwch wrth i’r anifeiliaid gael eu paratoi i’w dangos. Edrychwch arnynt yn y cylchoedd a byddwch yn dyst i’r broses beirniadu – beth sy’n gwneud yr anifail perffaith a phwy fydd yn mynd â’r rhoséd y mae pawb yn ei chwenychu adref?

Wedyn mae yna’r arwerthiannau da byw ar y prynhawn dydd Mawrth ble mae cannoedd o brynwyr yn ymgiprys i brynu’r anifeiliaid gorau.

Bydd ymweliad â’r neuadd carcasau yn dangos i’r myfyriwr chwilfrydig sut olwg sydd ar yr anifeiliaid pan ddônt o’r lladd-dy. Bydd cannoedd o enghreifftiau o garcasau wedi’u harddangos gyda’r cyfle i siarad â phobl broffesiynol ynghylch yr hyn sydd ar ddangos ac o ble daw ein darnau poblogaidd o gig.

Nesaf mae yna’r pafiliwn cynhyrchion cig ble gwelwch chi enghreifftiau o ddofednod wedi’u trin ar y dydd Llun a selsig a chynhyrchion cig eraill ar ddau ddiwrnod y ffair.Bydd yna arddangosiadau bwtsiera i weld sut y mae’r carcasau’n cael eu torri’n ddarnau o gig yr ydym yn eu hadnabod o ffenestr y cigydd neu silffoedd yr archfarchnad.

Yna mae arddangosiadau coginio’n dangos sut y gellir defnyddio’r cig mewn pob math o seigiau, o fyrgyrs, i dro-ffrio, o gyrri i frechdanau bacwn … mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd.

Yna wrth gwrs mae yna’r cynnyrch gorffenedig. Rhwng y neuadd fwyd a marchnad Nadolig y ffermwyr, bydd y myfyrwyr yn gweld y cynnyrch gorffenedig ar werth ac yn cael ei arddangos – yr enghraifft berffaith o werth oriau, diwrnodau, wythnosau, weithiau blynyddoedd o ymdrech gan fridwyr, ffermwyr, cigyddion a chynhyrchwyr i ddod â’r bwyd yr ydym i gyd yn ei adnabod ac mor hoff ohono inni

Mae tripiau ysgolion a cholegau yn cael eu croesawu ac yn wir eu hannog i ddod i’r Ffair Aeaf. Mae rhannu’r wybodaeth ynglŷn ag amaethyddiaeth a sut y caiff bwyd ei gynhyrchu yn hanfodol bwysig ac yn fenter y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn awyddus i gymryd rhan gynyddol ynddi.

Mae Ffair Aeaf 2023 AM DDIM i blant cynradd ac uwchradd o dan 16 oed a bydd ffi mynediad gostyngol o £5 yn cael ei gynnig i fyfyrwyr addysg uwch.

Rhaid i bob taith ysgol gofrestru ymlaen llaw ac archebu eu tocynnau ymlaen llaw erbyn dydd Gwener 27 Hydref 2023.

I gael mwy o wybodaeth am sut y gallai’ch myfyrwyr elwa ar y trip i’r Ffair Aeaf a manylion am y cyfleusterau sydd ar gael ar y safle ffoniwch 01982 553683 os gwelwch yn dda.