Digwyddiad Ffermio'r Ucheldir - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Croesawir chi i Fferm Hafod Y Llan ar ddydd Iau 12fed Mehefin 2025 ar gyfer Digwyddiad Ffermio’r Ucheldir.

Mae pwyllgor Sir Gaernarfon ar ran Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gyflwyno Digwyddiad Ffermio’r Ucheldir eleni, a fydd yn cael ei gynnal ddydd lau, Mehefin 12fed, yn Hafod y Llan, Beddgelert. Trefnir y digwyddiad hwn fel rhan o’r ymdrechion codi arian ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2025 ym Llanelwedd, lle bydd Sir Gaernarfon yn cael ei hanrhydeddu fel y sir nawdd eleni. Mae Hafod y Llan yn fferm 1,800 hectar, gyda thri phraidd o ddefaid mynydd Cymreig, a buches fechan o wartheg duon pedigri Cymreig. Mae yna hefyd systemau hydro, paneli solar, maes gwersylla a llety ar gyfer ymwelwyr. Mae’r fferm yn ymestyn o llawr y dyffryn i gopa’r Wyddfa.

Wedi’i leoli yng nghanol harddwch Eryri, bydd y digwyddiad yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a’r gogledd-ddwyrain ar gyfer diwrnod llawn gweithgareddau, a arddangosfeydd ymarferol. Mae sawl arddangoswyr wedi’u cadarnhau gan gynnig cyfle gwerthfawr i gysylltu ag cwmnioed lleol, busnesau amaethyddol cenedlaethol ac amrywiaeth o sefydliadau’r diwydiant. Ymhlith uchafbwyntiau’r dydd, bydd arddangosiadau peiriannau, stondinau masnach, treialon cwn defaid, gweithgareddau coedwigaeth, ac arddangosfeydd ar ffermio cynaliadwy. Hefyd bydd cyfle i weld arddangosiadau coginio byw a marchnad fwyd Gymraeg yn llawn cynnyrch lleol blasus. Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor trefnu, Bedwyr Jones, sy’n ffermio’r Gwastadanas, fferm gyfagos “fel pwyllgor roeddem yn teimlo bod y sector ffermio mynydd yn hanfodol bwysig i’r Sir hon ac mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers cynnal digwyddiad sy’n canolbwyntio ar yr ucheldiroedd. Mae diddordeb o bob rhan o’r DU. Mae rhai pobl yn cofio digwyddiad tebyg a gynhaliwyd yn Hafod y Llan ym 1996. Rydym yn falch iawn bod Mr Richard Williams oedd yn ffermio Hafod y Llan ar y pryd, wedi cytuno i fod yn Llywydd ar y 12fed o Fehefin”.

Un o brif atyniadau’r diwrnod fydd Cystadleuaeth Ffermwr lfanc Rhyng-Goleg, gyda thimau o dri o saith coleg Addysg-Bellach ledled Cymru yn cystadlu. Bydd y gystadleuaeth yn cynnwys ystod eang o dasgau ymarferol ac asesu gwybodaeth, gan gynnwys barnu da byw a cneifio defaid, gyrru beic modur, ffensio, gan orffen gyda phrawf gwybodaeth am y diwydiant. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y dydd, gan ddathlu sgiliau a brwdfrydedd ffermwyr ifanc Cymru.

Bydd adran treialon cwn defaid dan arweiniad y Gymdeithas Cwn Defaid Cymru, gyda chymorth Arwyn a Bryn Davies o Fryn Eglwys. Drwy gydol y dydd, bydd ymwelwyr yn gallu gwylio’r cwn wrth eu gwaith, gan arddangos y sgil a’r cydweithio rhyfeddol rhwng y bugail a’i gi. Bydd siaradwyr gwadd yn cynnig eu arbennigedd i faterion amaethyddol cyfoes. Bydd yr Athro Prysor Williams yn trafod datblygiadau yn y byd carbon a chyfraniad systemau ucheldir at gynhyrchu cig. Bydd Dan Jones o Landudno yn rhannu syniadau am ddatblygiadau ffermio mewn gwledydd eraill, a bydd Giles Hunt yn trafod cynlluniau rhentu tir y National Trust yn y dyfodol.

Gyda chroeso cynnes, cyfoeth o wybodaeth, ac ysbryd cymunedol cryf, mae Digwyddiad Ffermio’r Ucheldir yn Hafod y Lian am fod yn ddiwrnod cofiadwy i bobl o pob oed. Bydd y digwyddiad yn agor i’r cyhoedd am 10yb. Mae croeso cynnes i bawb ddod i fwynhau, dysgu a dathlu cryfder cymunedau ffermio mynydd Cymru. Ychwanegodd Bedwyr Jones “Mae Hafod y Llan mewn lleoliad godidog ac i bobl a hoffai weld y da byw yn pori’r llethrau bydd cyfle i ymuno a theithiau tywys neu i grwydro ar liwt eu hunain dros y fferm. Rydym yn ffodus i gael cefnogaeth rhai o gynhyrchwyr bwyd gorau’r Sir a gobeithio y bydd hefyd cyfle i ymlacio a dal i fyny gyda ffrindiau’r ardal tra hefyd yn mwynhau’r bwydydd danteithiol y fro”.

Mae tocynnau ar gael i’w archebu o flaen llaw ar wefan y Sioe Frenhinol am bris gostyngol neu gellir eu prynu wrth y giat ar y diwrnod. Plant o dan 16 am ddim.

Glynwen Davies a Arwyn Owen

 

 

CYFLEOEDD

Mae gennym ddigon o gyfleoedd noddi, arddangos ac hysbysebu ar gael yn ein digwyddiad. Darllenwch y pecyn am rhagor o wybodaeth.

Ffurflen gais Masnachwyr

I wneud cais am stondin masnach, gofynnwyn yn garedig i chi lawrlwytho a llenwi’r ffurflen gais.

Tocynnau

CYSYLLTWCH

Oes oes gennych unrhyw ymholiad mae croeso I chi gysylltu gyda ni: [email protected]