Atyniadau - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cylch Arddangos

Joseph’s Amazing Camels

Profwch wefr ‘Joseph’s Amazing Camels’ yn yr Ŵyl Wanwyn! Mae’r arddangosfa unigryw a chyffrous hon yn arddangos ystwythder, cyflymder a swyn anhygoel yr anifeiliaid godidog hyn. Peidiwch â cholli’r uchafbwynt cyffrous hwn o’r Ŵyl.

Ceffylau Gwedd ‘Gentle Giants’

Camwch yn ôl mewn amser i weld Tîm Arddangos Ceffylau Gwedd fawreddog y ‘Gentle Giants’ yn yr Ŵyl Wanwyn! Mae’r ceffylau trwm godidog hyn yn arddangos eu cryfder, gras a sgil anhygoel mewn arddangosfa syfrdanol o farchwriaeth draddodiadol. Mae’r olygfa na ellir ei cholli yn berffaith ar gyfer pob oed.


Meirion Owen a’i Gŵn Defaid

Wedi’i eni a’i fagu’n ffermwr, mae Meirion wedi bod o gwmpas cŵn defaid ar hyd ei oes. Ef yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i fod yn gysylltiedig â’r grefft o hyfforddi, cystadlu ac arddangos gyda’i gŵn defaid dros y wlad i gyd.

Mae Meirion yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a bu mewn tair cyfres o raglen boblogaidd iawn y BBC ‘One Man and His Dog.’ Mae wedi’i bortreadu ar lawer o raglenni teledu yn cynnwys ‘Countryfile’ a ‘The One Show’ y BBC, ‘Pet Nation’ SKY1 ac yn ddiweddar ar ‘Farmers Country Showdown’ a ‘Songs of Praise.’

Yn ei arddangosfa bydd Meirion yn rhoi gwybod am y broses o fod â chi bach i’r sgiliau a’r tips sydd eu hangen i hyfforddi’ch ci defaid. Cŵn defaid o’r enw Helen, Carlo, Sam, Jess a Megan yw’r cŵn a ddefnyddir gan Meirion a byddant yn cael eu harwain o amgylch y defaid gan ddefnyddio cyfres o orchmynion llais a chwiban.

Yn ystod yr arddangosfa bydd Meirion yn gwahodd rhywun o’r gynulleidfa i mewn i’r cylch i gael y cyfle i weithio un o’i gŵn o gwmpas diadell fechan o ddefaid.

Bydd Meirion yn ymuno â ni ar ddydd Sul yr Ŵyl yn unig.

Sgrialu-Yrru

Dechreuodd math o Sgrialu-Yrru mor bell yn ôl â’r 1950’au. Cychwynnodd yn America gyda cheffylau a wagenni pedair olwyn gan ddefnyddio casgenni i lywio o’u cwmpas ar gyflymdra. Daeth i Loegr yn ddiweddarach a defnyddid amrywiaeth o gerbydau ond yn gyffredinol cerbydau un ferlen oedd y rhain a chasgenni cwrw coch Watney’s oedd y rhwystrau.

Yna symudodd y gamp ymlaen i ddefnyddio parau o ferlod a chonau coch. Fel rheol roedd y gyrwyr yn trotian trwy’r conau er bod rhai yn rhygyngu. Yn wreiddiol roedd i’r cerbydau olwynion pren a theiars soled. Dechreuwyd defnyddio olwynion metal tua 1990 ac wrth i’r gyrwyr ddod yn ddewrach, addaswyd y cerbydau i’r gamp a ddaeth yn gyflymach wedyn, ac erbyn hyn mae’r cystadleuwyr yn gyrru’r cwrs ar y cyflymdra y gallant lywio’r cwrs.

Yn 2001 cafodd sgrialu-yrru ei gydnabod fel camp yn ei rinwedd ei hun, ffurfiwyd ‘The Scurry Driving Association’ i reoli ei weithgareddau ei hun.

Ardal Bywyd Cefn Gwlad

Will’s Petting Farm

Bydd Will’s Petting Farm yn dod ag amrywiaeth o anifeiliaid fferm bychain draw i’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, yn cynnwys merlod, geifr, cwningod, moch cwta ac alpacaod.

Agorodd Will ei fferm i’r cyhoedd i hwyluso profiad i’r teulu cyfan ei fwynhau, i hybu lles cadarnhaol a chyfoethogi bywyd.

Dewch draw i gyfarfod yr anifeiliaid cyfeillgar a chael hwyl!

Grŵp Ail-greu Canoloesol Woodville

Mae Grŵp Ail-greu Canoloesol Woodville yn hanes byw ac yn grŵp ail-greu brwydrau sydd a wnelo â Rhyfeloedd y Rhosynnau. Wedi’i sefydlu yn Hampshire yn nechrau’r 1990au mae’r grŵp bellach yn tynnu aelodau o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Mae hanes byw yn arddangosfa cyfnod o fywyd bob dydd. Yn aml mae Grŵp Woodville yn portreadu bywyd mewn gwersyll milwrol o’r bymthegfed ganrif. O’r adeg y mae’r arddangosfa’n agor i’r adeg y mae’r ymwelwyr yn gadael, mae’r gwersyll yn parhau’n ddilys. Mae hyn yn cynnwys y dillad sy’n cael eu gwisgo, y bwyd sy’n cael ei fwyta, a’r gweithgareddau a’r crefftau sy’n cael eu harddangos.

Pa un a ydych yn un selog am hanes ai peidio, byddwch yn dysgu llawer ac yn cael hwyl pan fyddwch yn ymweld â Grŵp Ail-greu Canoloesol Woodville.

Syrcas Deuluol Panic

Yn dychwelyd i’r Ŵyl gyda’i dîm o berfformwyr amryddawn, mae Professor Elmo wedi ymrwymo i’w syrcas ddi-anifeiliaid a’i theatr clowniaid ton newydd sy’n gyfeillgar i bobl ac yn canolbwyntio ar blant, sydd wedi’i thrwytho yn nhraddodiad y syrcas deithiol sy’n datblygu’n barhaus.

Gyda dros 40 blynedd o brofiad mae Panic yn falch o gyflwyno Syrcas Deuluol Panic ble bydd plant (ac oedolion) yn cael eu difyrru am oriau gyda’r gweithdai sgiliau syrcas, perfformiadau syrcas crwydrol, a sioeau pypedau traddodiadol.

Asynnod Emma Llanidloes

Mae Asynnod Emma Llanidloes yn hynod o gyffrous o fod yn mynychu’r Ŵyl Wanwyn. Dewch i gyfarfod rhai o’n hasynnod, eu hysgrafellu, gwneud crefft asyn a dysgu rhywfaint o ffeithiau hwyl. Yn addas ar gyfer pob oed. Mae asynnod yn anifeiliaid therapiwtig ac yn helpu gyda lles meddyliol.

Yn sicr o roi gwên fawr ar wynebau pawb pan fyddant o’u cwmpas.

Y Brif Sioe Gŵn Agored

Mae Adran Gŵn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf wrth ei bodd o fod wedi derbyn statws ‘Prif Sioe Agored’ am y trydydd ar ddegfed tro. Dewch i weld dros 1,000 o gŵn sy’n gobeithio cymhwyso ar gyfer Crufts!

Mae’r Brif Sioe Agored yn un o’r atyniadau mawr i’r rhai sy’n ymweld â’r Ŵyl pan fydd llawer o gŵn gwobrwyedig yn mynd ymlaen i ymuno â thros 20,000 o’r cŵn gorau eraill a fydd yn ymddangos yn sioe enwog Crufts yn 2026.

Mae mwy na 200 o fridiau ym Mhrydain a bydd cŵn o bob siâp, maint a lliw yn ymddangos yn yr Ŵyl.

Beiciau – Builth Bulls

Cwrs rhwystrau beicio i blant. Gall plant roi cynnig ar feicio, does dim angen dod â dim gyda chi! Darperir helmedau a beiciau a gellir dangos i’ch plant sut mae wedi’i wneud.

Bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal bob dydd o’r digwyddiad o 10am-12.30pm a 2.00-4.30pm.

Sioe Gŵn Hwyl Sir Nawdd Caernarfon

Bydd Sir Nawdd Caernarfon CAFC yn cynnal Sioe Gŵn Hwyl nofelti yn yr Ŵyl!

A oes gan eich ci bach y gynffon fwyaf siglog? Ai’ch ci chi yw’r ci achub  gorau? Neu efallai mai’ch ci chi sy’n edrych debycaf i’w berchennog! Os felly yna dyma’r gystadleuaeth i chi.

Bydd y dosbarthiadau’n cychwyn am 12.30 y pnawn ar y ddau ddiwrnod (Sadwrn 17 a Sul 18 Mai) a byddant yn rhedeg yn olynol. Mae ffioedd cystadlu yn £2 y dosbarth. Cofrestrwch ar y diwrnod yn yr Ardal Bywyd Gwledig 30 munud cyn yr amser dechrau.

Atyniadau Eraill

‘Gentle Giants – Shire Horses’

Dewch i gyfarfod y ‘Gentle Giants’, Joe a Frankie, yng Ngŵyl Wanwyn eleni, wedi’u lleoli gerllaw Pafiliwn Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig.

Dewch i wybod am y Brîd Ceffyl Gwedd hanesyddol a’r gwaith y maen nhw’n ei wneud heddiw. Yn sefyll 18 dyrnfedd o daldra, mae Joe a Frankie ill dau’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r holl ymwelwyr ac at dderbyn llawer o sylw a mwythau yn ystod yr Ŵyl!

Cneifio a Thrin Gwlân

Mae’n bleser gennym hyrwyddo amlochredd gwlân a’r creadigaethau y gellir eu gwneud o’r deunydd allan yn ystod yr Ŵyl.

Bydd Canolfan Gneifio Meirionnydd unwaith eto yn arddangos ein Cystadlaethau Trin Gwlân a Chneifio Llafn, ar gyfer dosbarthiadau dechreuol a chanolradd, ynghyd ag Arddangosfa Cneifio Hen Fis.

Drws nesaf yn y Neuadd Grefft, Celf ac Addysg, gall ymwelwyr fwynhau arddangosiadau gan Urdd Troellwyr a Gwehy

ddion Gwent a llawer o stondinau masnach gwlân.

Garddwriaeth Cyswllt Ffermio

Bydd Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn meddiannu Canolfan yr Aelodau ar gyfer Marchnad y Tyfwyr, ble bydd tyfwyr yn cael y cyfle i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd ac i arddangos a gwerthu eu cynhyrchion yn ystod yr Ŵyl ddeuddydd.

Rydym yn ffodus ein bod yn croesawu amrywiaeth o dyfwyr sy’n cynrychioli rhan eang o’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru.

Cerddoriaeth Fyw

Gall ymwelwyr fwynhau rhai o’r doniau lleol ein hardal bwyd stryd Cymraeg newydd, Gwledd | Gwledd, yn ystod y digwyddiad deuddydd.

Bydd yna amryw o berfformwyr cerddorol, yn cynnwys canu gwerin Cymreig, bandiau acwstig a bandiau Ceilidh a chanwyr a gitaryddion.

Gweler amserlen lawn y perfformiadau yma.

A llawer mwy…

  • Grwp Dawns Werin Cymru
  • Coedwigaeth – cystadleuaeth hollti coed
  • Gweithgareddau cefn gwlad a chwaraeon
  • Iechyd a Ffitrwydd y Fyddin Brydeinig
  • Arddangosfa Anifeiliaid Anwes
  • Arddangosfa Gwneud Rhaffau
  • Sgyrsiau a Gweithdai Cadw Tyddyn
  • Arddangosfeydd Hen Beiriannau