Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
20-21 May 2023.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
24-27 Gorffennaf 2023.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
27-28 Tachwedd 2023.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Digwyddiad Sir Nawdd Morgannwg CAFC ar gyfer 2023 fydd Regen ’23. Bydd yn cael ei gynnal yn Sealands Farm, trwy ganiatâd caredig Richard a Lynwen Anthony ar ddydd Iau 8 Mehefin 2023.
Bydd Regen ’23 yn digwydd ym Mro Morgannwg, yn Sealands Farm, Saint-y-brid CF32 0RR. Mae Richard Anthony yn gweithredu menter âr amrywiol, flaengar sy’n cyfuno da byw ac ynni adnewyddadwy, gyda ffocws ar iechyd pridd, tir glas a dal carbon.
Bydd y digwyddiad yn ymestyn dros 600 erw gan arddangos goreuon oll amaethyddiaeth Cymru a sut y gall systemau ffermio atgynhyrchiol a blaengar helpu i oresgyn yr heriau yn y dyfodol fydd yn wynebu amaethyddiaeth Cymru.
Bydd yn croesawu nifer o arweinwyr y diwydiant, sefydliadau a chwmnïau o bob sector gan ei wneud yn ddigwyddiad rhaid ymweld ag e’ i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol ffermio.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
Mae Regen ’23 CAFC yn gyfle gwych i gyflenwi ffermwyr ag ymgyfuniad o dechnoleg ble gallant ddysgu, edrych, archwilio a mabwysiadu arferion amaethyddol newydd.
Mae digon o gyfleoedd ar gael i gymryd rhan yn Regen '23. Darllenwch y cyfan am yr amrywiol ffyrdd i gymryd rhan, megis nawdd a phecynnau hysbysebu, stondinau masnach, lleiniau treialu ac arddangosiadau offer.
I wneud cais am unrhyw un o’r cyfleoedd sydd ar gael yn Regen '23 lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 28ain Ebrill 2023.
Prynwch eich tocynnau nawr am bris gostyngol o £8.50. Mae tocynnau yn £10 ar y diwrnod. Gatiau yn agor am 9:30.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu’ch bod ag angen rhagor o wybodaeth, e-bostiwch glamregen23@gmail.com neu cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Charlotte Thomas ar 07742306159 neu William Hanks ar 07970202284.