Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Prif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru…

Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau dangos da byw, â chystadleuwyr yn teithio o fannau pell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb, diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous.

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2024 rhwng dydd Llun 22 a dydd Iau 25 Gorffennaf. 

Garddwelyau Micro

Eleni mae gennym gyfle cyffrous i fusnesau ddarparu ‘Garddwelyau Micro’ fel rhan o’n Pentref Garddwriaeth newydd i arddangos amrywiaeth garddwriaeth yng Nghymru. Mynegiadau ar log i'w derbyn erbyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Digwyddiadau sy'n cael eu cynnal

Pedwar diwrnod yn llawn cystadlaethau, atyniadau, arddangosiadau, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a siopa... mae digonedd i'w weld a'i wneud yn Sioe Frenhinol Cymru. Gallwch weld y rhaglen o ddigwyddiadau dyddiol a manylion y prif atyniadau yma:

Prynwch eich tocynnau nawr

Prynnwch eich tocynnau nawr. Bydd angen prynu pob tocyn cyn y digwyddiad trwy ein gwefan ac ni fyddant ar gael wrth y giât

Llwythwch Ap Frenhinol Cymru i Lawr

Mae fersiwn 2023 o Ap Frenhinol Cymru ar gael i'w lwytho i lawr. Mae'n adnodd dwyieithog hwylus sy'n cynnwys map rhyngweithiol, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion ynghylch cadw'n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.

MAP SIOE FRENHINOL CYMRU

Edrychwch ar map o'r sioe cyn cyrraedd i'ch helpu i gynllunio i ble'r ydych chi'n dymuno mynd a beth yr hoffech chi ei weld

DYDDIADAU I'R DYDDIADUR

Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer dyddiadau Sioe Frenhinol Cymru sydd ar ddod... 22-25 Gorffennaf 2024 / 21-24 Gorffennaf 2025 / 20-23 Gorffennaf 2026 / 19-22 Gorffennaf 2027