Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-22 May 2022.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-21 Gorffennaf 2022.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
28-29 Tachwedd 2022.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Sioe Frenhinol Cymru yw uchafbwynt calendr amaethyddol Prydain, a chaiff ei chynnal rhwng 19 – 22 Gorffennaf 2021 ar faes y sioe yn Llanelwedd.
Ynghyd â’r da byw gwych, mae gan y sioe rywbeth i ddiddori pawb trwy gyfrwng ei hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr ddyddiol yn llawn adloniant cyffrous, atyniadau ac arddangosiadau.
Bydd cymaint yn digwydd yn ystod pedwar diwrnod y sioe, felly byddwn ni’n llwyddo i dynnu pentwr o luniau trawiadol bob blwyddyn…
Dyma ddyddiadau Sioe Frenhinol Cymru i’r dyfodol:
18 – 21 Gorffennaf 2022
24 – 27 Gorffennaf 2023
22 – 25 Gorffennaf 2024
Peidiwch ag oedi, prynnwch eich tocynnau nawr! Bydd angen prynu pob tocyn cyn y digwyddiad trwy ein gwefan ac ni fyddant ar gael wrth y giât