Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gellir llunio pecynnau nawdd a chyfleoedd arbennig i weddu i’ch gofynion a’ch cyllideb.

P’un ai a oes gennych chi ddiddordeb mewn hysbysebu mewn catalog, noddi dosbarth dangos da byw neu ddod yn brif noddwr un o’r digwyddiadau, mae cyfle ar gael i chi.

Mae ychydig gyfleoedd yn dal i fod i dynnu sylw at eich busnes yn Ffair Aeaf eleni. Dewch yn noddwr a chael eich brand yn uniongyrchol o flaen eich cynulleidfa darged berffaith.

A HOFFECH CHI WYBOD RHAGOR? CYSYLLTWCH:
LEANNE DAVIES
Swyddog Nawdd
Ffôn
01982 554410