Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-22 May 2022.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-21 Gorffennaf 2022.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
28-29 Tachwedd 2022.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Fel un o sioeau stoc dethol gorau Ewrop, bydd y Ffair Aeaf yn denu’r torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.
Ynghyd â’r amserlen lawn arferol o gystadlaethau, arddangosfeydd ac arddangosiadau, mae’r Ffair Aeaf hefyd yn cynnig cyfle perffaith i’r siopwr craff brynu anrhegion unigryw a gwreiddiol.
Bydd y neuadd fwyd yn cael ei llenwi gan gynhyrchwyr gorau Cymru yn dangos eu cynnyrch ac yn temptio ymwelwyr i roi cynnig ar yr amrywiaeth o ddanteithion hyfryd sydd ar gael.
Bydd y ffair ar agor tan 8yh ar y nos Lun ar gyfer siopa Nadolig a’r sioe tân gwyllt, a bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau pori, gwrando ar y corau a’r bandiau byw ac efallai gweld Siôn Corn hyd yn oed.
Mae’r awyrgylch Nadoligaidd, goleuadau’n disgleirio, y tân gwyllt ysblennydd a’r da byw trawiadol yn cynnig cyfleoedd i dynnu lluniau gwych…
Dyma ddyddiadau’r Ffair Aeaf yn y dyfodol:
28 – 29 Tachwedd 2022
27 – 28 Tachwedd 2023
25 – 26 Tachwedd 2024