Mae Jo a minnau wedi bod yn cadw golwg ar bethau, mewn gwirionedd, ers ein parti lansio ym Mhenllyn Court ym mis Awst 2019, pan yn gofiadwy iawn, y rhuthrodd Anwen i mewn i’r babell ar beiriant torri glaswellt, a oedd i fynd ar ocsiwn, yn canu Cymru Fach!
Ers hynny rydym wedi adeiladu cartref eco newydd ar y fferm, wedi symud i mewn, ac wedi ymddeol o ffermio. Yn lle hynny rydym wedi cael ein hunain yn cyflawni gorchwylion gwasaidd diderfyn yn Forage, ein siop fferm a bwyty.
Rydym wedi dysgu cymaint gan ein hybarch Gadeiryddion lleol, John Thomas (De), Andrew Edwards (Gogledd), Jonathan Lloyd Davies (Gorllewin) a Teleri Glyn Jones (Caerdydd), yn ogystal â, wrth gwrs, y Capo dei Capi Kathy Bowdler, Cadeirydd ein Sir Nawdd.
Bu inni fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Sir Benfro yn Drysgolgoch, ble nid yn unig y rhoddodd Seimon Thomas sgwrs codi calon danbaid inni, ond yn gofiadwy iawn arwerthodd David Lewis y brechdanau oedd dros ben! Cawsom ychydig o fân ddigwyddiadau cyn y cyfnod clo ac yna daethom yn fyw eto mis Mai y llynedd.
Fe wnaethom ymweld â Digwyddiad Tir Glas Clwyd, yr Ŵyl Wanwyn, y Brif Sioe a’r Ffair Aeaf, braidd fel ysbiwyr, a daethom yn fwyfwy cyfarwydd â’r hyn sy’n mynd ymlaen. Er ein bod wedi mynychu sioe’r haf byth ers inni ddychwelyd i Gymru o Fanceinion yn 1980 i fagu ein tri phlentyn Matt, Tom a Ginny yma, mae hi’n dod yn gliriach fod y Gymdeithas yn endid aruthrol o gymhleth. Mae’n cynrychioli popeth sy’n ardderchog ynglŷn â Chymru, mae’n groesawus, yn gydweithredol, yn steilus a dim ond ychydig bach yn ffurfiol.
Ni allaf gymryd arnaf fod gennym bedigri CAFC fy rhagflaenydd, Harry, yr wyf wedi’i adnabod a’i wylio am flynyddoedd wrth iddo hwylio’n ddigyffro o amgylch y safle, yn ei ddillad ysblennydd. Serch hynny, rwyf yn teimlo fy mod yn cynrychioli hanes dramatig Morgannwg yn eithaf cywir.
Sefydlodd teulu fy nhad ffowndri haearn yn nyddiau cynnar ymchwydd diwydiannol Merthyr Tudful (1783) a ganwyd fy mam ym Mhenarth yn ferch i berchennog llongau o Gaerdydd. Sefydlwyd y cwmni llongau gan un o’m hynafiaid, a aeth i’r môr yn 12 oed fel gwas caban, a ddechreuodd fel clerc yn Annings yng Nghaerdydd ac a aeth ymlaen i sefydlu ei gwmni llongau ei hun gyda 26 o longau. Dyna oedd Caerdydd!!
Wrth gwrs prynodd y teulu dir i uwchraddio’i hun (1840) ac rydym wedi bod ym Mhenllyn byth ers hynny. Fy meibion, Matt a Tom, sydd yn y gadair boeth bellach, y chweched genhedlaeth o’r Homfrays i’w llenwi.
Mae’r rhain yn ddyddiau dramatig i fyd ffermio ac mae llawer o’r tueddiadau, i ni o leiaf, i’w croesawu’n llwyr. Tra bo’r diffyg ffigurau ynghlwm wrth Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn peri rhwystredigaeth, mae cyfeiriad y teithio’n dod yn gliriach.
I’r perwyl hwn nid ydym yn cynnal Digwyddiad Tir Glas yn 2023, ond yn hytrach ddiwrnod arddangos Ffermio Atgynhyrchiol ar Fehefin 8fed ar fferm David Anthony, Sealands, Y Wig. Rydym mor ddiolchgar iddo ef a’i rieni, Richard a Lynwen. Fel arall, rydym wedi bod yn cynnal llawer o ddigwyddiadau difyr o gwmpas y sir ac yn dal i wneud hynny ac mae’r arian yn dod i mewn bob yn dipyn tuag at ein prosiectau, sef Academi Arweinyddiaeth Sioe Frenhinol Cymru ac adnewyddu Neuadd Morgannwg (De Morgannwg gynt).
Rydym yn arbennig o falch o’n 14 o gyfranogwyr yr Academi Arweinyddiaeth a ddewiswyd o restr ryfeddol o ymgeiswyr, byddwn yn ddiamau’n clywed llawer ganddynt yn y dyfodol. Mae’r cynllun hwn wedi’i alluogi gan gymynrodd ardderchog gan Ymddiriedolwyr y ddiweddar Mr Norman Griffiths a chyllid o Ymddiriedolaeth Elusennol George Gibson. Rhaid imi ddiolch i Sara Llewellyn Jones a Martin Gibson am eu cefnogaeth wych i’r fenter yma.
Diolchaf i bawb ym Morgannwg am yr hwyl a’r cyfeillgarwch yr ydym wedi’i rannu yn ystod y broses yma ac, wrth gwrs, diolchaf i’r rheini yn Llanelwedd sydd wedi esmwytháu ein llwybr yn gyson. Mae’r Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones, Cadeirydd y Bwrdd, Yr Athro Wynne Jones a Chadeirydd y Cyngor, Nicola Davies, a’r staff i gyd wedi bod yn gymorth diderfyn inni hefyd, ynghyd â’r cymeriad hoenus hwnnw, Jacob Anthony, sy’n Llysgennad Sioe Frenhinol Cymru inni. Rwyf wedi adnabod y rhan fwyaf ohonynt ers blynyddoedd. Dyna fel y mae hi yng Nghymru, o drugaredd!
Mae’r Model Sir Nawdd mor ddyfeisgar fel fy mod yn gobeithio y bydd yn parhau am lawer mwy o gylchoedd o amgylch y 12 Sir a bod ein Maes Sioe rhyfeddol yn dal i dra-rhagori ar bob un arall yr wyf erioed wedi’i weld.
Mae Jo a minnau’n edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd yn nigwyddiadau 2023 a diolchaf eto i’m ffrindiau ym Morgannwg am roi imi anrhydedd fawr wrth fy newis yn Llywydd iddyn nhw. Rwyf yn addo cymhennu’n gyffredinol a cheisio dweud y peth iawn – yn Gymraeg eto!!
John Homfray FRAgS
Ni ddychmygais i erioed, yn fy mreuddwydion mwyaf hurt, y byddwn i un diwrnod yn Miss Sioe Frenhinol Cymru….neu a ddylwn ddweud, yn Llysgennad CAFC, fel mae’r swydd yn cael ei hadnabod heddiw!
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dal degawdau o draddodiad yn agos at ei chalon, ond mae hefyd yn gymdeithas flaengar sy’n croesawu newid ac yn annog datblygiad. Gyda hyn mewn cof, mae hi’n fraint aruthrol cael bod y bachgen cyntaf erioed i ymgymryd â swydd Llysgennad Sir Nawdd.
Mae ein pwyllgor yn cynnwys tîm anhygoel ac mae gennym rai pobl arbennig iawn yma. A minnau’n fachgen wedi’i eni a’i fagu ym Morgannwg, teimlaf yn falch iawn fy mod yn gallu cynrychioli ein sir unigryw.
Byth ers oeddwn yn blentyn bach, rwyf bob amser wedi mwynhau’r bererindod deuluol flynyddol i’r Sioe Frenhinol, y tlws yng nghoron byd y sioeau amaethyddol. Roedd y dyddiau cynnar yn golygu trotian o gwmpas ar ôl fy nhad yn yr adran beiriannau.
Yn ddiweddarach, daeth gwisgo amdanoch ar y llwyfan ar gyfer amrywiol gystadlaethau’r CFfI, clymu careiau’r esgidiau yn barod at y Rygbi 7 bob ochr, beirniadu Cystadleuaeth y Bugeiliaid yn adran y defaid ac, wrth gwrs, flasu’r cwrw yn y bar aelodau enwog! Mae’r rhain i gyd yn atgofion oes arbennig a hapus, diolch i’r Gymdeithas ardderchog yma.
Mynychais Ysgol Babyddol yr Archesgob McGrath ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yna euthum ymlaen i astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Hartpury, Swydd Gaerloyw. Ar ôl cwblhau fy astudiaethau dychwelais adref i ffermio’n llawn amser wrth ochr fy nhad, Peter, fy mam Emma a fy niweddar dad-cu, David, ar fferm y teulu, Cwm Risca, yn Nyffryn Llynfi.
Mae i Gwm Risca berthynas arbennig â’r Sioe Frenhinol. Roedd fy niweddar hen ewythr, Tom Richards, a oedd hefyd yn galw’r fferm yn gartref, yn Llywydd yn 1982.
Ers dychwelyd adref yn llawn amser, rwyf wedi bod yn ffodus o barhau fy natblygiad personol. Rwyf wedi bod yn rhan o raglenni trosglwyddo gwybodaeth megis Academi Amaeth Cyswllt Ffermio a menter Cenhedlaeth Nesaf y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol.
Yn 2018, cefais yr anrhydedd o fod yn Ffermwr Ifanc y Flwyddyn y Farmers Weekly yn ogystal â bod yn Ffermwr Ifanc y Flwyddyn Gwobrau’r Diwydiant Bwyd a Ffermio. Hwy yw’r uchafbwyntiau personol yn fy ngyrfa hyd yn hyn a bu iddynt arwain at imi ysgrifennu colofn farn fisol i’r Farmers Weekly.
Fe wnaeth ymgyrch codi arian Sir Nawdd CAFC Morgannwg gychwyn yn swyddogol yr holl ffordd yn ôl yn 2019, gyda chinio lansio yng nghartref ein Llywydd unigryw a charismatig, Johnny Homfray, Ystâd Penllyn. Ar y pryd pwy ar y ddaear a allai fod wedi meddwl y byddai pandemig byd-eang wedi rhoi’r byd ar stop am bron dwy flynedd?
Ers i’r wlad fynd yn ôl i ryw fath o normalrwydd, mae tîm Morgannwg wedi bwrw ati yn ddiymdroi gydag amryw o ddigwyddiadau codi arian. Mae’r digwyddiadau hyn yn amrywio o nosweithiau Dirgelwch Llofruddiaeth i fingo, arwerthiannau a hyd yn oed rasio Defaid!
Mae tua hanner poblogaeth Cymru yn byw ym Morgannwg, gyda mwyafrif llethol y bobl yn y dinasoedd, trefi a chymunedau’r cymoedd wedi’u gwasgaru ar hyd coridor yr M4. Teimlaf fod gennym ni, fel pwyllgor, ran enfawr i’w chwarae wrth werthu’r stori ffermio tra ein bod yn codi arian at elusennau dan ambarél CAFC.
Mae Ffair Wledig Garth a Sofl i Had Cwm Risca yn ddwy enghraifft o ddigwyddiadau Morgannwg sydd wedi denu nifer o gannoedd o aelodau’r cyhoedd i ffermydd sy’n gweithio, lawer am y tro cyntaf un.
Rwyf yn gyffrous am y flwyddyn nesaf o fod yn hyrwyddo’r Gymdeithas gyda Johnny a hefyd ochr yn ochr â dwy wraig anhygoel, y Cadeirydd Kathy Atkin-Bowdler a’r ysgrifennydd Charlotte Thomas, yn ogystal â gweddill tîm codi arian gweithgar Morgannwg!
Hoffwn hefyd longyfarch fy rhagflaenydd, Lowri Lloyd Williams. Bu hi’n Llysgennad penigamp dros Glwyd ac rwyf yn ddiolchgar am ei chyngor dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.
Os hoffech chi gadw llygad ar yr hyn sy’n mynd ymlaen yma ym Morgannwg, dilynwch ein hamrywiol dudalennau cyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr!
Jacob Anthony