Dangoswch bod eich brand yn cefnogi un o gymdeithasau amaethyddol mwyaf Ewrop a dewch yn rhan o sefydliad sy’n gwneud cyfraniad blaenllaw at ddatblygu amaethyddiaeth ac economi cefn gwlad Cymru a Phrydain Fawr ers 1904.
Gellir llunio pecynnau nawdd a chyfleoedd yn benodol i weddu i’ch gofynion a’ch cyllideb. P’un ai a oes gennych chi ddiddordeb mewn hysbysebu mewn catalog, noddi dosbarth dangos da byw neu ddod yn brif noddwr un o’r digwyddiadau, mae cyfle ar gael i chi.
Gallai buddion bod yn un o noddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gynnwys:
- Cysylltiad â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, brand adnabyddus a mawr ei barch yn rhyngwladol
- Cyfle i gyrraedd at gwsmeriaid newydd a blaenorol, a chyfleoedd i gynyddu eich sylfaen o gleientiaid
- Cyrraedd at gynulleidfaoedd teledu eang trwy gyfrwng rhaglenni a gaiff eu darlledu cyn, yn ystod ac wedi’r digwyddiadau ar S4C, y BBC ac ITV, ynghyd â darllediadau a gaiff eu ffrydio’n fyw ar-lein yn rhyngwladol
- Presenoldeb amlwg iawn ar faes y sioe
- Cyhoeddiadau gan sylwebwyr yn ystod y digwyddiadau
- Cynnwys eich enw ar wefannau www.rwas.wales a www.cafc.cymru
- Gostyngiad o 50% wrth hysbysebu yn rhaglenni a chatalogau swyddogol ein digwyddiad
- Gostyngiad o 50% wrth hysbysebu yn rhaglenni a chatalogau swyddogol ein digwyddiad
- Tocynnau digwyddiad a bathodynnau noddwyr VIP, gyda gostyngiadau ar docynnau ychwanegol
- Cyfleoedd i gyflwyno gwobrau yn y cylchoedd
Mae ein noddwyr presennol yn dweud bod dau brif reswm pam eu bod yn parhau i gefnogi ein digwyddiadau:
Mae'n codi proffil brand ac yn ysgogi gwerthiant, gan roi cyfle i fusnesau gysylltu â chleientiaid amaethyddol.
Mae ganddynt angerdd dros gefnogi'r sector amaethyddol, sy'n aml yn ystum dyngarol, yn ogystal â dadleuon masnachol.
Dewch yn noddwr
Gellir teilwra pecynnau a chyfleoedd noddi i weddu i'ch anghenion a'ch cyllideb. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gosod hysbyseb mewn catalog, noddi dosbarth da byw neu ddod yn brif noddwr ar gyfer un o'r digwyddiadau, mae cyfle ar gael i chi. Rhowch ganiad i ni ar 01982 554410 neu anfonwch e-bost atom drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Beth am Stondin Fasnach?
Pam na wnewch chi gyfuno eich pecyn noddi gyda gofod stondin fasnach a manteisio ar yr holl fuddion sy’n gysylltiedig â bod yn rhan o ddigwyddiadau Sioe Frenhinol Cymru?
![]() |
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni: | ||
|
lois morris
Swyddog Noddi
|
Ffôn
|
E-bost
|
|
