Sioe Stỳnts Beiciau Cwad Paul Hannam

Mae Paul Hannam yn ddyn stỳnts beiciau cwad o Ogledd Dyfnaint ac mae ganddo 25 mlynedd o brofiad o reidio beiciau cwad a 10 mlynedd o brofiad yn rasio ar lefel Pencampwriaeth Prydain.

Mae Sioe Stỳnts Beiciau Cwad Paul Hannam yn addo arddangosfa yn llawn cyffro gyda sgiliau, manwl gywirdeb ac adloniant beiddgar. Gall cynulleidfaoedd fwynhau reidio beiciau cwad manwl gywir ac arddangosfeydd stỳnts, gan gynnwys y cwad stỳnts aml-rôl syfrdanol, wrth i Paul daclo amrywiaeth anhygoel o rwystrau fel ceir, faniau, tractorau ac ambell i gawr o dryc hyd yn oed.

Gyda neidiau mor fawr ag y mae’r arena yn eu caniatáu, mae pob stỳnt yn fwy trawiadol fyth wrth ystyried eu bod yn cael eu perfformio heb gymorth ramp glanio. Bydd y triciau ym mhob un o bedair cornel yr arena, gan ddod â’r difyrrwch yn agos at y dorf a sicrhau bod pawb yn cael golygfa wych.

Rhwng arddangosfeydd, anogir ymwelwyr i aros ger y stondin ryngweithiol i gael golwg agosach ar y beiciau, cwrdd â Paul a thynnu llun.

Grand National y Merlod Shetland

Yn ymddangos am y tro cyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru yn y Prif Gylch, mae Grand National y Merlod Shetland yn un o atyniadau mwyaf cyffrous ac unigryw campau marchogaeth. Mae’r arddangosfa wefreiddiol hon yn dathlu ei 45ain flwyddyn bellach, ac mae’n cynnwys jocis ifanc talentog sy’n rasio merlod Shetland cofrestredig mewn sioe gyflym deuluol sy’n wledd i’r llygaid.

Mae’r sioe wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn digwyddiadau mawreddog gan gynnwys Sioe Geffylau Frenhinol Windsor, Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain, Aachen yn yr Almaen, Prague a Sioe Geffylau Ryngwladol Longines Hong Kong.

Sefydlwyd Grand National y Merlod Shetland i feithrin jocis y dyfodol ac mae wedi helpu i lansio gyrfaoedd mwy na 33 o jocis proffesiynol, gan gynnwys Sam a Willy Twiston-Davies, Freddie Keighley, Olive Nicholls a Phencampwr y Jocis Rasio Gwastad Jim Crowley.

Mae marchogion, rhwng 8 a 14 oed a dan 5 troedfedd o daldra, yn dangos sgil eithriadol, dyfalbarhad a gwaith tîm wrth iddynt gystadlu ar gefn merlod Shetland sydd wedi’u cofrestru’n swyddogol. Yn ogystal ag ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent rasio, mae’r sefydliad wedi codi dros £1 miliwn i achosion elusennol, gan gynnwys dros £300,000 i Ymddiriedolaeth Ganser Bob Champion.

Yn broffesiynol, yn ddifyr ac yn llawn bwrlwm, mae Grand National y Merlod Shetland yn sicr o fod yn un o uchafbwyntiau rhaglen y Prif Gylch eleni.

Hawkeye Falconry UK

Yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, bydd Hawkeye Falconry UK yn dod â phrofiad adar ysglyfaethus cyffrous ac addysgiadol i Faes y Sioe.

Mae Hawkeye Falconry yn angerddol am arddangos harddwch, sgil a galluoedd naturiol rhai o adar mwyaf rhyfeddol y byd. O eryrod mawreddog a hebogau pwerus i hebogau asgell-las cyflym a thylluanod hynod ddiddorol, bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i weld y creaduriaid anhygoel hyn yn agos a dysgu mwy am eu hymddygiad, cadwraeth a’u rôl o fewn ein treftadaeth naturiol.

Trwy gydol y Sioe, bydd Hawkeye Falconry yn cynnal arddangosfa statig lle gall ymwelwyr gwrdd ag amrywiaeth o adar ysglyfaethus a darganfod celfyddyd hynafol hebogiaeth. Bydd eu tîm gwybodus wrth law i rannu mewnwelediad i’r bartneriaeth unigryw rhwng hebogydd ac aderyn, gan gynnig profiad hynod ddiddorol i bob oed.

Ar ben hynny, bydd tîm Hawkeye yn cyflwyno arddangosfeydd hedfan gwefreiddiol yn yr arena arddangos bob dydd. Bydd yr arddangosfeydd cyfareddol hyn yn arddangos cyflymder, ystwythder a deallusrwydd amrywiaeth o adar ysglyfaethus, gan ddarparu cyfle prin i weld eu hymddygiad naturiol ar waith.

Efallai eich bod chi wedi bod wrth eich bodd ag adar erioed neu’n gweld adar ysglyfaethus am y tro cyntaf. Beth bynnag fo’ch sefylla, mae ymddangosiad cyntaf Hawkeye Falconry UK yn Sioe Frenhinol Cymru yn addo bod yn brofiad bythgofiadwy.

Côr Ffermwyr Hawkstone

Bydd Côr Ffermwyr Hawkstone yn perfformio yn y Prif Gylch ar ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru 2026, ddydd Llun 20 Gorffennaf.

Ffurfiwyd Côr Ffermwyr Hawkstone gan Jeremy Clarkson a daeth at ei gilydd yn wreiddiol yn rhan o ymgyrch hysbysebu ar gyfer ei fusnes bragu yn y Cotswolds. Ers hynny, mae’r côr wedi tyfu i fod yn rhywbeth llawer mwy, gan ddefnyddio ei blatfform i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl yn y gymuned ffermio.

Yn ddiweddar, cipiodd y grŵp galonnau’r genedl trwy ennill rownd derfynol Britain’s Got Talent 2026 – y côr cyntaf erioed i gipio’r teitl.

Bydd y côr yn perfformio ar brynhawn dydd Llun 20 Gorffennaf, gan ddiddanu cynulleidfa orlawn yn y Prif Gylch o flaen miloedd o ymwelwyr â’r Sioe ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn un o ddigwyddiadau nodedig wythnos y Sioe.

Parasiwtio RAF Falcons

Yr RAF Falcons yw prif dîm arddangos parasiwtio milwrol y DU ac mae wedi’i leoli yn RAF Brize Norton, Swydd Rydychen. Mae’n arddangos mewn lleoliadau ledled Prydain ac Ewrop trwy gydol y flwyddyn ac wedi perfformio lawer gwaith i’r Teulu Brenhinol a phenaethiaid gwladwriaethau. Mae hefyd wedi gosod sawl record ac wedi cyflwyno llawer o ddatblygiadau cyffrous ym maes awyrblymio ar ffurf benodol.

Mae eu harddangosfa cwympo rhydd gyffrous, sy’n cynnwys symudiadau blaengar, yn syrthio ar gyflymder hyd at 120mya, o arddangosfeydd uchel o 7000 troedfedd i arddangosfeydd isel o 2500 troedfedd, a’u harddangosfa ‘hybrid’ enwog sy’n cynnwys siâp y Galon neu’r Helics a’r Carwsél Croes, sy’n llwyddo i swyno’r holl wylwyr.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys awyrblymwyr yn neidio gyda baneri, gan gynnwys baner Jac yr Undeb ac arwyddlun yr RAF, a phawb yn gwisgo mwg i ychwanegu at y wledd i’r llygaid.

(Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher yn unig, os bydd y tywydd yn caniatáu)

Meirion Owen a'i Gŵn Defaid

Ag yntau’n ffermwr i’r carn, mae Meirion Owen wedi gweithio gyda chŵn defaid Border Collie trwy gydol ei oes ac ef yw trydedd genhedlaeth ei deulu i feistroli crefft hyfforddi, cystadlu ac arddangos gyda chŵn defaid ledled y DU.

Dechreuodd Meirion gystadlu yn naw oed ac mae wedi cael llwyddiant sylweddol dros y blynyddoedd. Ag yntau’n gyn-Bencampwr Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru, mae wedi bod yn gapten ar dîm Cymru mewn cystadlaethau rhyngwladol ac wedi ymddangos mewn tair cyfres o raglen y BBC One Man and His Dog.

Mae Meirion yn wyneb cyfarwydd ar deledu a radio ac mae wedi ymddangos ar raglenni sy’n cynnwys The One Show, Countryfile, Songs of Praise a Love Your Weekend with Alan Titchmarsh ar ITV.

Trwy ei arddangosfeydd difyr a gwybodus, mae Meirion yn egluro’r daith o ddewis a hyfforddi ci bach ifanc i ddatblygu ci dafad gweithgar medrus. Bydd ymwelwyr yn gweld ei gŵn Border Collie talentog – Helen, Cassie, Jess, Megan a Jammie – yn tywys defaid neu hwyaid yn grefftus gan ddefnyddio cyfuniad o orchmynion llais a chwiban, gan arddangos y bartneriaeth ryfeddol rhwng yr hyfforddwr a’r ci.

I ychwanegu at yr hwyl, mae Meirion hefyd yn gwahodd aelod o’r gynulleidfa i’r cylch am y cyfle i weithio un o’i gŵn defaid drostyn nhw eu hunain, gan wneud hwn yn atyniad difyr a chofiadwy i bob oed.

Gyrru Cerbydau Tristar

Mae tîm Gyrru Ceoetsis Tristar yn ffefryn cadarn a bydd yn ôl i arddangos yn y Prif Gylch bob dydd yn ystod y Sioe.

Bydd ceffylau Tristar yn cael eu cadw yn y lle arferol, ac mae croeso i chi fynd i’w gweld yn ystod y Sioe. Bydd y tîm hefyd yn rhoi sgwrs am hanes hyfforddi yng Nghylch y Ceffylau ddydd Mercher am 10.30yb.

Band Catrodol a Chorff Drymiau y Cymry Brenhinol

Mae Band Catrodol y Cymry Brenhinol yn un o nifer fach iawn o fandiau pres yn unig yng Ngherddoriaeth Byddin Prydain, ac mae’n denu offerynwyr o dreftadaeth a diwylliant bandiau pres cyfoethog rhanbarth De Cymru i’w rengoedd. Mae pob cerddor yn un o Filwyr Wrth Gefn y Fyddin ac yn ymrwymo i’r Band o amgylch eu galwedigaethau sifil.

Mae arddull a repertoire y Band yn amlbwrpas ar lwyfan cyngherddau ac ar orymdaith fel band gorymdeithio. Fe’i gwelir yn rheolaidd ledled y dywysogaeth yn perfformio ystod eang o ddyletswyddau cyhoeddus a seremonïol o saliwtiau Gynnau Brenhinol a gorymdeithiau rhyddid i’w bresenoldeb parhaus yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd lle mae’n perfformio i gefnogwyr rygbi ledled y byd.

Yn ogystal â pherfformiadau domestig, mae’r Band a’r Drymiau hefyd wedi teithio ledled Ewrop, Canada, ac Awstralia. Mae eu cerddoriaeth wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd mewn nifer o datŵs milwrol, gan gynnwys Tatŵ Rhyngwladol Brenhinol Nova Scotia yng Nghanada, a Thatŵ Milwrol Rhyngwladol ‘Musikfest der Bundeswehr’ yn Düsseldorf, yn yr Almaen.

Cymdeithas Chwaraeon Dronau Byddin Prydain

Cymdeithas Chwaraeon Dronau Byddin Prydain (BADSA) yw camp ddiweddaraf Byddin Prydain. Nod BADSA yw defnyddio’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chwaraeon dronau ar gyfer cystadlu difyr ar er mwyn gwella gallu milwyr i weithredu dronau ac arbrofi â nhw, yn ogystal â’r sgiliau y gellir eu trosglwyddo at eu gallu milwrol.

Bydd BADSA yn sefydlu arddangosfa Rasio Dronau ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru, i arddangos sgil milwyr a chyflwyno’r gamp bleserus hon sy’n rhan o faes Gwyddoniaeth, Technoleg Peirianneg a Mathemateg (STEM) i’r cyhoedd.
(Dydd Llun a dydd Mercher yn unig)

Pentref Ceffylau Trwm

Yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf hynod lwyddiannus y llynedd, mae’r Pentref Ceffylau Trwm yn dychwelyd yn 2026, gan ddathlu’r anifeiliaid godidog hyn a’u rôl hanfodol yn ein treftadaeth amaethyddol.

Bydd y Pentref yn cynnwys rhai o’r ceffylau mwyaf yn y wlad ac yn cynnig cyfle gwych i ddod yn agos at y cewri addfwyn hyn.

Roedd yr ardal yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr yn 2025, ac, unwaith eto, bydd yn cynnig man penodol i ddysgu mwy am hanes, cryfder a natur amlbwrpas ceffylau gwedd a cheffylau trwm.