SIR NAWDD MAESYFED

Llysgennad 2028

Allech chi fod y person nesaf i hyrwyddo amcanion y Gymdeithas a bod yn lladmerydd a chodwr arian allweddol ar gyfer Sir Nawdd Maesyfed?

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â brwdfrydedd a hyder ar gyfer rôl anrhydeddus Llysgennad 2028 y CAFC i hyrwyddo nodau ac amcanion y Gymdeithas.

Dylid llenwi’r ffurflen gais isod a’i dychwelyd at y Pennaeth Gweinyddiaeth, drwy e-bost at [email protected] erbyn diwedd y diwrnod gwaith ddydd Gwener 23 Hydref 2026.


Gweld ffurflen gais ›

AR GAEL TRWY DENDR ANFFURFIOL

Pafiliwn ar Faes y Sioe Frenhinol

Mae cyfle prin wedi codi i rentu pafiliwn amlwg ar Faes y Sioe Frenhinol naill ai trwy drwydded neu gytundeb les tymor hirach.

Mae’r Pafiliwn ar gael i’w ddefnyddio o fis Ionawr 2027, ac o bosibl trwy gydol y flwyddyn.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb i gyflwyno tendr gan ddefnyddio’r ffurflen gais isod, a’i dychwelyd i’r Gymdeithas erbyn 12 hanner dydd ddydd Llun 9 Tachwedd 2026 fan bellaf.

 


Gweld dogfen y tendr ›

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.