Mae ceisiadau bellach wedi cau.
Cysylltwch â’n hadran da byw:
E-bost: livestock@rwas.co.uk
Fel un o amcanion allweddol y Gymdeithas, rydym bob amser yn awyddus i hyrwyddo garddwriaeth ac yn anelu at annog mwy o dyfwyr ifanc i gymryd rhan.
Yn ogystal â’r dosbarthiadau hynny sydd eisoes wedi’u sefydlu, bydd nifer o ddosbarthiadau newydd yn cael eu hychwanegu at yr amserlen Garddwriaeth gyda thasgau i wneud gwesty chwilod neu dyfu planhigyn egsotig ymhlith eraill.
Bydd amserlenni ar gael o fis Mawrth 2023. Mae’r dosbarthiadau ar agor i blant mor ifanc â phedair hyd at un ar bymtheg oed.
Darllenwch holl ganlyniadau Sioe Frenhinol Cymru.