Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
20-21 May 2023.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
24-27 Gorffennaf 2023.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
27-28 Tachwedd 2023.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mynedfa A – Rhodfa E
Cylch Ceffylau (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl) – Rhodfa J/H
Cylch Ymgasglu’r Prif Gylch (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod) – Rhodfa K
Cylch Gwartheg, cornel uchaf (yn cynnwys cawodydd) – Rhodfa M
Cylch Moch a Geifr (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl a chawodydd) – Rhodfa M
Ardal Gweithgareddau Gwledig (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chawodydd) – Rhodfa D
Rhodfa Peiriannau (yn cynnwys cawodydd) – rhwng Rhodfeydd C a D
Neuadd Arddangos De Morgannwg (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl)
Hafod a Hendre (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod)
Pafiliwn Trefaldwyn (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl)
Canolfan Groeso (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl)
Pafiliwn Rhyngwladol (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod i fyny’r grisiau a chyfleusterau i bobl anabl i lawr grisiau)
Neuadd Clwyd Morgannwg (yn cynnwys cyfleusterau i bobl anabl)
Mae cyfleusterau newid a bwydo babanod ar gael hefyd ym Mhafiliwn y Noddwyr, o dan yr eisteddle, ar yr adegau canlynol: Dydd Llun 10am – 7pm, Dydd Mawrth 10am – 4pm
Dylid rhoi gwybod am blant sydd ar goll i unrhyw un o swyddogion CAFC neu i stiward, a fydd yn gweithredu’r drefn plant ar goll. Dylai unrhyw blentyn ar goll y deuir o hyd iddo yn y Ffair gael ei hebrwng gan o leiaf ddau oedolyn i’r Cyfleusterau Bwydo a Newid Babanod ym Mhafiliwn y Noddwyr, o dan yr eisteddle.
Mae cyfleuster peiriant arian a weithredir gan Cash on the Move i’w gael y tu allan, ar gornel Neuadd De Morgannwg, gyferbyn â Neuadd Trefaldwyn.
Os digwydd argyfwng, ffoniwch 999.
Yn achos materion nad ydynt yn argyfyngau, gellir cysylltu â’r heddlu ar: 101 neu mae Pencadlys CAFC nesaf at Bafiliwn Trefaldwyn (Rhif ffôn: 01982 553683).
Mae’r ganolfan cymorth cyntaf wedi’i lleoli yn nhŵr rheoli cylch y defaid, nesaf at y babell garcasau. (Rhif ffôn: 01982 554407).
Nid yw’r gymdeithas yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am bethau a gollir neu a gaiff eu dwyn yn y Ffair. Mae gan Heddlu Dyfed Powys drefn pethau a gollwyd ac a gafwyd newydd, rhowch wybod am unrhyw bethau a gollwyd trwy’r wefan ganlynol: www.reportmyloss.com/uk/
Gellir dod o hyd i lecynnau WiFi rhad ac am ddim ym mhob cwr o faes y sioe yn ystod y Ffair Aeaf yn y mannau canlynol:
Cylch Gwartheg, Neuadd 1
Hafod a Hendre
Canolfan Groeso
Neuadd Fwyd
Cofiwch y bydd lluniau yn cael eu tynnu a bydd ffilmio’n digwydd ym mor cwr o faes y sioe at ddibenion darlledu, cyhoeddusrwydd a marchnata.
Bydd Ystafell Dlysau CAFC, a leolir yn Neuadd Clwyd Morgannwg, ar agor o 10.00 am – 4.00 pm ar y ddau ddiwrnod. Cedwir 125 o dlysau’r Gymdeithas yn yr ystafell.
Lleolir Tîm Caplaniaid CAFC yng nghyntedd Neuadd Clwyd Morgannwg ac maent ar gael i gynnig gofal bugeiliol o 8am – 8pm. Mewn argyfwng, gellir cysylltu â nhw ar 07506 969195.
Ac eithrio cŵn cymorth a’r rheini sydd i gymryd rhan yn y Sioe Gŵn Hela, ni chaniateir cŵn yn y Ffair Aeaf. NI CHANIATEIR CŴN CYMORTH mewn unrhyw adeiladau/fannau sy’n cynnwys anifeiliaid byw, Neuadd Garcasau, Canolfan Arddangos Frenhinol Cymru, Pabell y Ceffylau a Llinellau’r Ceffylau, Pafiliwn Ffwr a Phlu, Neuadd Arddangos De Morgannwg oherwydd presenoldeb stoc neu’u lleoliad. Byddir yn caniatáu cŵn cymorth yn y Neuadd Fwyd a’r Mannau Arlwyo. Peidiwch â gadael cŵn mewn ceir.
Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw le cyhoeddus amgaeedig neu rannol amgaeedig.
Ni chaniateir i ymwelwyr yfed alcohol tra byddant yn cerdded o amgylch maes y sioe nac yn y mannau cyhoeddus hynny sydd heb eu trwyddedu i werthu alcohol.