Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
22-25 Gorffennaf 2024.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Edrychwch ar map o'r sioe cyn cyrraedd i'ch helpu i gynllunio i ble'r ydych chi'n dymuno mynd a beth yr hoffech chi ei weld
Lawrlwythwch ein ap am ddim ac ewch ati i greu eich amserlen eich hun ar gyfer y sioe i sicrhau na wnewch chi fethu unrhyw beth ar ôl cyrraedd yma.
Angen gwybod ble mae'r toiled agosaf, peiriant arian neu ganolfan cymorth cyntaf. Dysgwch am holl gyfleusterau'r safle.
Mae Llanelwedd, Llanfair ym Muallt a'r ardal gyfagos yn cynnig dewis gwych o fusnesau gwely a brecwast, gwestai, bythynnodd, tai llety a mannau gwersylla mewn ardal sydd ymhlith cefn gwlad mwyaf godidog ac ysblennydd y DU.
Os ydych chi'n ymwelydd rhyngwladol, p'un ai a ydych chi'n ymweld â'r sioe oherwydd rhesymau busnes neu i fwynhau, fe'ch gwahoddir i ymweld â'r Pafiliwn Rhyngwladol.
Tocynnau ar werth nawr. Hepiwch y ciwiau a mynnwch eich tocyn nawr!