Mae Sioe Styntiau Beiciau Modur Steve Colley yn cynnwys amrywiaeth lawn o driciau dull rhydd, styntiau trawiadol, gris fertigol 7 troedfedd, beic mono (yr unig reidiwr treialon yn y byd i feistroli’r stỳnt yma), neidiau a chwympiadau, i gyd wedi’u cyfuno gyda sylwebaeth lawn gan Steve ei hun tra’i fod yn gwneud y styntiau! Mae’r sioe drawiadol hon yn sicr o syfrdanu’r dyrfa.
Mae llwyddiannau Steve yn cynnwys:
Mae Phill Gibbons a’i dîm o Ridgeside yn eich gwahodd i weld eu cŵn potsiwr a’u daeargwn anhygoel yn gwneud yr hyn sy’n dod yn naturiol iddyn nhw.
Yn y cylch arddangos byddan nhw’n rasio nerth eu traed yn rhedeg ar ôl yr abwydyn trydan. Maen nhw’n cynnig arddangosiad cyflym llawn mynd gyda sylwebaeth addysgiadol a doniol gan Phill. Bydd y cyhoedd yn cael y cyfle i “roi cynnig arni” gyda’u cŵn eu hunain – beth bynnag fo’u brîd!
Ffurfiwyd y Gymdeithas Ceffylau Harnais yn 1883 gan griw o unigolion oedd yn awyddus i hyrwyddo bridio Ceffylau Harnais. Mae sefyllfa’r Ceffyl a’r Ferlen Harnais yn cael ei hystyried yn “enbydus” ar Restr Ymddiriedolaeth y Bridiau Prin ar hyn o bryd.
Mae’r Ceffyl Harnais yn fr1d ceffylau a merlod amlbwrpas iawn. Mae’n fwy adnabyddus am dynnu wageni a cheirt ond mae’n cael ei chydnabod yn fwy ym meysydd dressage, neidio ceffylau a th raws gwlad, marchogaeth, sgrialu a dycnwch. Llawer mwy i ddod gan y br1d rhyfeddol hwn.
Dewch i wylio’r gyrwyr yn dangos ceinder rhyfeddol y br1d ardderchog yma. Maen nhw wrth eu bodd pan fydd y dyrfa’n cyfranogi felly clapiwch a chymeradwywch gymaint ag y gellwch pan welwch chi nhw yn y cylch!
Mae prif dîm Triciau, Styntiau a Sgiliau Beiciau Mynydd y DU wedi syfrdanu tyrfaoedd ledled y byd er 1996. Mae’r Tîm ‘M.A.D’ wedi’i ffurfio o reidwyr gorau’r DU, yn cynnwys cyn-bencampwyr Byd a chyn-bencampwyr Prydeinig, a fydd yn rhyfeddu’r gynulleidfa gyda fflipiau, sbiniau, hopiau, triciau cydbwyso, a styntiau ‘M.A.D’ eraill, yng nghwmni eu sylwebydd proffesiynol slic a doniol eu hunain.
Mae ymddangosiadau teledu’r reidwyr yn cynnwys Britain’s Got Talent, Blue Peter, C4 a The Extreme Sports Channel.
Mae Clwb Landrofer De Cymru (SWLRC) wedi ymuno unwaith eto â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i ddod â Gŵyl Landrofers Cymru ichi i Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni.
Rydym wedi gweld cerbydau trawiadol wedi’u cofrestru o’r blaen ac ni fyddem yn hoffi dim yn fwy na chael eich cerbyd chi ar ddangos i helpu i wneud yr Ŵyl yn fwy a gwell.
I gael mwy o wybodaeth neu i gofrestru ewch i: welshfestivaloflandrovers.com
Dewch i gyfarfod y ‘Gentle Giants’, Joe a Frankie, yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni, wedi’u lleoli gerllaw Pafiliwn Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig.
Dewch i wybod am y Brîd Ceffyl Gwedd hanesyddol a’r gwaith y maen nhw’n ei wneud heddiw. Yn sefyll 18 dyrnfedd o daldra, mae Joe a Frankie ill dau’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r holl ymwelwyr ac at dderbyn llawer o sylw a mwythau yn ystod yr Ŵyl!
Bydd Canolfan Gneifio Meirionnydd yn dod yn Barth Gwlân unwaith eto; ardal i helpu i hyrwyddo amlbwrpasedd a’r creadigaethau bendigedig y gellir eu gwneud o wlân.
Yn cynnwys Cystadlaethau Trin Gwlân a Chneifio â Gwellau, arddangosiadau gan Urdd Crefftwyr Nyddu a Gwehyddu Gwent, Arddangosfa Cneifio â Hen Beiriannau Meirionnydd a llawer o stondinau’n ymwneud â gwlân.
Bydd Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn meddiannu Canolfan yr Aelodau ar gyfer Marchnad y Tyfwyr, ble bydd tyfwyr yn cael y cyfle i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd ac i arddangos a gwerthu eu cynhyrchion yn ystod yr Ŵyl ddeuddydd.
Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am dyfwyr sy’n cynrychioli croestoriad o’r diwydiant garddwriaeth.
Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos goreuon Diwydiant Garddwriaeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Thomas ar 01982 552 646 neu e-bostiwch
rachel.thomas@lantra.co.uk
Gall ymwelwyr fwynhau rhai o’r doniau lleol o’r Bandstand yn ystod y digwyddiad deuddydd.
Bydd yna amryw o berfformwyr cerddorol, yn cynnwys canu gwerin Cymreig, bandiau acwstig a bandiau Ceilidh a chanwyr a gitaryddion.
Gweler amserlen lawn y perfformiadau yma.
Yn dychwelyd i’r Ŵyl gyda’i dîm o berfformwyr amryddawn, mae Professor Elmo wedi ymrwymo i’w syrcas ddi-anifeiliaid a’i theatr clowniaid ton newydd sy’n gyfeillgar i bobl ac yn canolbwyntio ar blant, sydd wedi’i thrwytho yn nhraddodiad y syrcas deithiol sy’n datblygu’n barhaus.
Gyda dros 40 blynedd o brofiad mae Panic yn falch o gyflwyno Syrcas Deuluol Panic ble bydd plant (ac oedolion) yn cael eu difyrru am oriau gyda’r gweithdai sgiliau syrcas, perfformiadau syrcas crwydrol, a sioeau pypedau traddodiadol.
Bydd Fferm Pentre yn dod ag amrywiaeth o anifeiliaid fferm bach gyda nhw i’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, yn cynnwys Merlod Shetland, geifr a mynnod, ŵyn, cwningod a moch cwta. Bydd yna ardal ddarganfod Ysgol Goedwigaeth hefyd gyda gweithgareddau crefft a gweithgareddau synhwyrol.
Dewch draw i gyfarfod yr anifeiliaid cyfeillgar a chael hwyl!
Mae Adran Gŵn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf wrth ei bodd o fod wedi derbyn statws ‘Prif Sioe Agored’ am y deuddegfed tro. Dewch i weld dros 1,000 o gŵn sy’n gobeithio cymhwyso ar gyfer Crufts!
Mae’r Brif Sioe Agored yn un o’r atyniadau mawr i’r rhai sy’n ymweld â’r Ŵyl pan fydd llawer o gŵn gwobrwyedig yn mynd ymlaen i ymuno â thros 20,000 o’r cŵn gorau eraill a fydd yn ymddangos yn sioe enwog Crufts yn 2023.
Mae mwy na 200 o fridiau ym Mhrydain a bydd cŵn o bob siâp, maint a lliw yn ymddangos yn yr Ŵyl.
Bydd Sir Nawdd Morgannwg CAFC yn cynnal Sioe Gŵn Hwyl nofelti yn yr Ŵyl!
A oes gan eich ci bach y gynffon fwyaf siglog? Ai’ch ci chi yw’r ci gweithio gorau? Neu efallai mai’ch ci chi sy’n edrych debycaf i’w berchennog! Os felly yna dyma’r gystadleuaeth i chi.
Bydd y dosbarthiadau’n cychwyn am 12.30 y pnawn ar y ddau ddiwrnod (Sadwrn 20fed a Sul 21ain Mai) a byddant yn rhedeg yn olynol. Mae ffioedd cystadlu yn £2 y dosbarth. Cofrestrwch ar y diwrnod yn yr Ardal Bywyd Gwledig 30 munud cyn yr amser dechrau.
Bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal bob dydd o’r digwyddiad o 10am-12.30pm a 2.00-4.00pm.
Arddangosion eraill yn yr Ardal Bywyd Gwledig: