Ymwelwyr rhyngwladol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Fel ymwelydd rhyngwladol, p’un ai a ydych chi’n ymweld â’r sioe oherwydd rhesymau busnes neu i fwynhau, fe’ch gwahoddir i ymweld â’r Pafiliwn Rhyngwladol. Yn ogystal â chroeso cynnes, yno, gallwch chi ganfod:

  • Stiwardiaid gwybodus sydd ag amrywiaeth o sgiliau ieithyddol
  • Canllawiau i’ch helpu i elwa’n llawn o’ch ymweliad â’r sioe
  • Copi o raglen y sioe am ddim
  • Lle i ymlacio a chwrdd â ffrindiau hen a newydd, a rhwydweithio â hwy
  • Lle i gwrdd â’ch grŵp neu eich teulu
  • Lluniaeth ysgafn am ddim (Te, Coffi, Pice ar y Maen)
  • WiFi am ddim
  • Lle i wefru eich ffonau a’ch cyfrifiaduron llechen
  • Ystafell cyfarfodydd busnes fechan sydd ar gael i gynnal cyfarfodydd preifat
  • Cyfleusterau toiledau

Os ydych chi’n ymwelydd rhyngwladol, dewch i gofrestru yn y pafiliwn yn Rhodfa K, ble rhoddir bathodyn i chi yn cynnig mynediad am ddim i chi i’r Pafiliwn Rhyngwladol tra byddwch yn y sioe.

Amseroedd Agor 2025

Dydd Llun 21 Gorffennaf 1.30yp tan 3.30yp

Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 8.30yb tan 3.30yp Bydd WPCS yn bresennol 2.30yp tan 3.30yp

Dydd Mercher 23 Gorffennaf 8.30yp tan 3.30yp

Dydd Iau 24 Gorffennaf 8.30yb to 4.00yp

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!

Prynwch eich tocynnau ymlaen llaw

Os prynwch chi eich tocynnau ar-lein, gallwch chi arbed arian ac osgoi'r ciwiau ger y fynedfa hefyd.