Tocynnau Cyfryngau
Mae tocynnau mynediad i’r cyfryngau ar gael i aelodau’r cyfryngau sy’n ysgrifennu neu’n tynnu lluniau i’r wasg neu’n darlledu rhaglenni o’n digwyddiadau.
Mae’r sylw a roddir i’n digwyddiadau yn y cyfryngau yn wych ac rydym ni’n hynod o ddiolchgar am hynny. Fodd bynnag, mae digwyddiadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru mor boblogaidd a llwyddiannus, bydd galw sylweddol iawn bob amser am docynnau mynediad i aelodau’r cyfryngau a ffotograffwyr .