Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
16 & 17 Mai 2020
Gatiau’n agor am 9 y bore
Tocynnau Oedolion £16 wrth y giât, gostyngiadau ar-lein ar gael
Mynediad AM DDIM i bob plentyn 16 oed ac iau
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
20 – 23 Gorffennaf 2020
Gatiau’n agor am 8 y bore
Tocynnau Oedolion: o £28 wrth y giât, gostyngiadau ar-lein ar gael
Tocynnau Plant: (5-16) £5
Plant dan 5: AM DDIM
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
30 Tachwedd & 1 Rhagfyr 2020
Gatiau’n agor am 8 y bore
Tocynnau Oedolion: o £16 wrth y giât, gostyngiadau ar-lein ar gael
Tocynnau Plant: (5-16) £5
Plant dan 5: AM DDIM
Lleolir y babell i blant sydd ar goll yn Rhodfa E, gyferbyn ag eisteddle’r prif gylch (rhif y stondin – E361). Bydd y babell ar agor rhwng 9.30 yb a 7.30 yh. Y tu allan i’r oriau hyn, gofalir am bob plentyn sydd ar goll yng Ngorsaf yr Heddlu, ger Mynedfa A.
Dylid rhoi gwybod am unrhyw blentyn sydd ar goll yn Swyddfa’r Heddlu ger Mynedfa A neu ym Mhencadlys CAFC (Rhif ffôn: 01982 553683).
Mae peiriannau arian wedi’u lleoli yn y mannau hyn:
Bydd Barclays a HSBC hefyd yn cynnig gwasanaeth bancio llawn yn ystod pedwar diwrnod y sioe.
Os bydd unrhyw argyfwng, ffoniwch 999.
Yn achos materion sydd ddim yn argyfyngau, gellir canfod Swyddfa’r Heddlu ger Mynedfa A (Rhif ffôn: 101) neu mae Pencadlys CAFC wrth ochr Pafiliwn Maldwyn (Rhif ffôn: 01982 553683).
Mae Canolfan Feddygol sydd â’r holl gyfarpar priodol a thîm o staff meddygol proffesiynol wedi’i lleoli yn Rhodfa D (Rhif ffôn: 01982 551057).
Gellir casglu a rhoi gwybod am eiddo coll yng Ngorsaf yr Heddlu, ger Mynedfa A.
Mae llecynnau WiFi rhad ac am ddim ar gael ym mhob cwr o faes y sioe yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, yn y mannau dilynol:
Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr y Rhyngrwyd fod o fewn 25m i arwyddion y llecynnau WiFi i sicrhau eu bod yn derbyn y gwasanaeth WiFi gorau.
Ceir dros 1,000 o stondinau masnach yn y sioe, ac mae digonedd o gyfleoedd i sbwylio eich hun yn y sioe eleni. Nid oes yn rhaid i chi boeni am gario eich bagiau siopa o fore gwyn tan nos… rydym ni’n cynnig ‘storfeydd bagiau siopa’ arbennig ble gallwch chi adael eich nwyddau nes byddwch chi’n barod i fynd adref.
Lleolir y rhain ger Mynedfa A a Rhodfa Cerddwyr Mynedfa’r Peiriannau, a byddant ar agor rhwng 9.00yb a 6.00yh. Bydd storfa fwyd ar gael yn y Neuadd Fwyd rhwng 9.00yb a 6.00yh hefyd.
Cofiwch y bydd lluniau yn cael eu tynnu a bydd ffilimio yn digwydd ym mhor cwr o faes y sioe at ddibenion darlledu, cyhoeddusrwydd a marchnata.
Yn ystod y sioe, gellir prynu aelodaeth o’r Bythau Aelodaeth a leolir ger Mynedfeydd A ac C ac yn Nhŷ Ynys Môn, gyferbyn â Phafiliwn Maldwyn. Bydd y Bwth Aelodaeth ger Mynedfa C hefyd ar agor rhwng rhwng 12.00yp a 6.00 yh ar y prynhawn Sul cyn y sioe.
Lleolir Tîm Caplaniaid Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yng nghyntedd Neuadd Clwyd Morgannwg, ac maent ar gael 24 awr y dydd. Gellir cysylltu â hwy trwy ffonio 0845 367 9990.
Ac eithrio cŵn cymorth, ni chaniateir cŵn o fewn ffens derfyn maes y sioe. NI CHANIATEIR UNRHYW GŴN CYMORTH mewn unrhyw adeiladau/mannau ble mae anifeiliaid byw, Neuadd Arddangos De Morgannwg, yr Eisteddle, Pafiliynau’r Aelodau, y Pafiliwn Ffwr a Phlu, Neuadd Clwyd Morgannwg, nac unrhyw un o lefydd bwyta’r Gymdeithas. Peidiwch â gadael cŵn mewn ceir.
Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw le cyhoeddus amgaeëdig neu rannol amgaeëdig.
Ni chaniateir i ymwelwyr yfed alcohol wrth gerdded o amgylch maes y sioe nac yn y mannau cyhoeddus hynny sydd heb eu trwyddedu i werthu alcohol.