Prif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru…
Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau da byw a cheffylau, gydag ymgeiswyr yn teithio o bell ac agos i gystadlu, mae gan Sioe Frenhinol Cymru rywbeth at ddant pawb drwy ei hystod eang o weithgareddau, gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd cyffrous.
Bydd Sioe Frenhinol Cymru 2027 yn cael ei chynnal o ddydd Llun 19 Gorffennaf tan ddydd Iau 22 Gorffennaf.
Prif Atyniadau
Gyda phedwar diwrnod yn llawn cystadlaethau, atyniadau, arddangosfeydd, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a siopa... mae digon i'w weld a'i wneud yn Sioe Frenhinol Cymru. Cewch fanylion ein prif atyniadau yma…
Map y sioe
Offeryn dwyieithog defnyddiol sy’n cynnwys map rhyngweithiol, amserlen lawn, y canlyniadau diweddaraf a llawer mwy, gan gynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion am sut i gadw’n ddiogel yn ein digwyddiadau ac yn yr ardal leol.

Lawrlwythwch ein ap
Offeryn dwyieithog defnyddiol sy'n cynnwys map rhyngweithiol, amserlen lawn, y canlyniadau diweddaraf a llawer mwy, gan gynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion am gadw'n ddiogel yn ein digwyddiadau ac yn yr ardal leol.