Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
20-21 May 2023.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
24-27 Gorffennaf 2023.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
27-28 Tachwedd 2023.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb i weithio yn swyddfa CAFC neu fel rhan o dîm yr ystâd ar sail barhaol neu dros dro anfonwch eich gwybodaeth ymlaen at recruitment@rwas.co.uk
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Nawdd hyderus, dynamig a brwdfrydig i ymuno â’n tîm i chwarae rôl ganolog wrth gael gafael ar a hwyluso ein Noddwyr ar gyfer digwyddiadau, yn cynnwys Sioe Frenhinol Cymru, y Ffair Aeaf a’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad.
Lleoliad: Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys (gydag opsiwn hyblyg/hybrid)
Oriau: Amser llawn
Cyflog: Tua £21,000
Cyfrifoldebau Allweddol
Mae’r swydd yn eang ac yn amrywiol; mae’n cwmpasu pob agwedd ar nawdd ar gyfer tri phrif ddigwyddiad y Gymdeithas a bydd yn cynnwys:
I drafod y swydd yn anffurfiol, anogir ymgeiswyr i gysylltu â Phennaeth Datblygu Busnes, Clare James (clare@rwas.co.uk).
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Caron W Evans, Pennaeth Gweinyddiaeth (recruitment@rwas.co.uk).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner dydd ar 17 Chwefror 2023.
Byddir yn cynnal cyfweliadau ar ddydd Gwener 24 Chwefror 2023.
Cliciwch yma am ddisgrifiad swydd llawn.