Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-22 May 2022.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-21 Gorffennaf 2022.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
28-29 Tachwedd 2022.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol ar gyfer cwmniau sy’n cynnig nwyddau megis cynnyrch amaethyddol, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, pob mathau o nwyddau i’r cartref a llawer iawn rhagor.
Os hoffech chi arddangos ym mhrif ddigwyddiad Cymru, llenwch a dychwelwch ffurflenni cais Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2021 isod.
Cofiwch lenwi’r ffurflenni cais ac asesu risgiau, ac yn bwysicaf oll, cynhwyswch luniau o’ch stondin a manylion cyfeiriad eich gwefan fel gallwn ni weld pa nwyddau rydych chi’n eu gwerthu.
Bydd arddangoswyr sydd wedi mynychu Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2019 yn cael cyfle awtomatig i ailarchebu’r un lle ar gyfer 2019.
Mae’r Neuadd Fwyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn arddangos bwyd a gaiff ei dyfu, ei ddatblygu, ei bacio neu ei gynhyrchu yng Nghymru.
I gael cyfle i arddangos eich nwyddau yn yr un lle â nwyddau gorau Cymru, llawrlwythwch y ffurflen a llenwch a dychwelwch hi erbyn Medi 2019:
Nodiadau Cyfarwyddyd Neuadd Fwyd Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2019
Ffurflen Gais Neuadd Fwyd Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2019