Cystadleuaeth Ysgolion - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Bob blwyddyn, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cynnal cystadlaethau ffotograffiaeth a chelf i blant ysgol. Mae hyn yn ffurfio rhan o amcanion elusennol y Gymdeithas i hyrwyddo amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, a chadwraeth yng Nghymru.

 

Coed ar y Fferm


Ysgolion Cynradd

Mae coed yn rhan bwysig o dirwedd ffermydd Cymru. Gallant ddarparu lloches i anifeiliaid, cartrefi i fywyd gwyllt, a helpu i ddiogelu’r pridd a’r tir.

Ar gyfer y thema hon, cymerwch lun yn dangos coed fel rhan o fywyd fferm. Gall hyn gynnwys coed yn y caeau, cloddiau, perllannau neu goed yn tyfu ger anifeiliaid neu adeiladau fferm.

Dangoswch sut mae coed a ffermio yn perthyn i’w gilydd!

Coed a Ffermio gyda’i Gilydd


Ysgolion Uwchradd

Ar draws Cymru, mae coed yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy. Gallant ddarparu lloches i anifeiliaid, gwella iechyd pridd, cefnogi amrywiaeth biolegol, a helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Ar gyfer y thema hon, tynnwch lun sy’n dal y berthynas rhwng coed ac amaethyddiaeth o fewn y dirwedd weithredol. Gall hyn gynnwys cloddiau, rhwystrau lloches, coetiroedd ffermydd, perllannau, neu goed yn tyfu ochr yn ochr ag anifeiliaid neu gnydau.

Dylai eich delwedd dynnu sylw at sut mae coed yn cyfrannu at amgylchedd amaethyddol gwydn a chynaliadwy.

Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â…
Eve Watkins
Reception
Ffôn
01982 553683