Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Croesawir chi i Fferm Trawsgoed ar y 30ain o Fai 2024 ar gyfer Digwyddiad Glaswellt a Thail Cyanliadwy. Mae arwynebedd y fferm yn 2000 erw wedi’i wasgaru dros sawl safle, fferm Trawscoed fydd y safle ar gyfer Digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy CAFC Ceredigion 2024.

Mae fferm Trawscoed yn 1000 erw sy’n cynnwys tir gwastad ar waelod Dyffryn  Ystwyth, 30 metr uwchlaw lefel y môr sy’n codi i dir pori uchel 300 metr uwchlaw lefel y môr. Mae ganddi hefyd 250 erw o goetiroedd a reolir yn cynnwys coed brodorol a chonifferau.

Mae mentrau fferm yn cynnwys da byw a thir âr. Mae buches laeth yn cynnwys 350 o wartheg sy’n cael eu  godro drwy 5 robot Delaval VMS 300, a fydd ar agor i’w gweld ar y diwrnod. Mae 200 o wartheg ifanc yn cael eu magu ar y fferm ynghyd â 200 o wartheg eidion Aberdeen Angus X sy’n treulio peth amser yn pori yn Nhrawscoed a’u pesgi ar safle Gogerddan.

Mae diadell o 400 o famogiaid yn cynnwys Texel pedigri, Blueface Leicester, diadell o famogiaid Beulah sy’n cael eu rhedeg i ddarparu mamogiaid miwl ar gyfer cynhyrchu ŵyn masnachol.

Cymerir pum toriad o silwair glaswellt wedi ei gymryd o wndwn HS2 Germinal yn bennaf gyda meillion coch. Defnyddir yr ardal âr i gynhyrchu cymaint o startsh a phrotein â phosibl i fwydo’r da byw. Tyfodd Pys a Haidd Gwanwyn ar gymhareb 70/30 a chrimpio ar gyfer diet gwartheg i ddarparu porthiant protein 16%.

Mae Lupins yn cael eu tyfu, ac wedi cael eu cynnwys yn llwyddiannus yn y dietau pesgi gwartheg eidion gan ddileu Soia a brynwyd. Ffa Gaeaf a dyfir i’w cynnwys yn neiet TMR y fuwch laeth heb unrhyw effaith andwyol ar gynhyrchu llaeth pan fydd llai o soia yn y diet. Mae ein prynwr llaeth wedi gofyn i ni dynnu Soia o’n diet, felly mae’n rhaid dod o hyd i ffynhonnell brotein arall. Tyfir Rye Hybrid ar gyfer Cnwd Cyflawn i’w ychwanegu at ddiet buchod godro. Tyfir hefyd Gwenith y Gaeaf, Haidd Gaeaf a Ceirch Gaeaf er mwyn i’w cynnwys mewn dognau dwysfwyd cymysg cartref. Bydd y rhan fwyaf o’r cnydau âr yn cael eu tyfu ar y safle i’w gweld pan fyddwch yn mynychu’r digwyddiad.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn eich croesawu i weld y cyfleusterau ac yn edrych ymlaen at ddiwrnod llwyddiannus iawn o rannu gwybodaeth er mwyn cynnal cynhyrchu bwyd yn effeithlon yn yr hinsawdd newidiol.

Bydd digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy 2024 yn croesawu nifer o arweinwyr diwydiant, sefydliadau a chwmnïau o bob sector gan ei wneud yn ymweliad hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol ffermio.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Teithiau Fferm – bydd teithiau’n cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd gan aros mewn gwahanol safleoedd a phwyntiau o ddiddordeb sy’n dangos y dull cyfredol sy’n cael ei roi ar waith ar y fferm.
  • Stondinau Masnach – sefydliadau a busnesau ar gyfer y sectorau âr a da byw
  • Seminarau – Seminarau a sesiynau holi ac ateb trwy gydol y dydd gan ffermwyr blaenllaw yn y diwydiant ac aelodau seneddol.
  • Arddangosiadau byw Silwair a Thail – llu o arddangosiadau gweithio gan amrywiaeth o gynhyrchwyr peiriannau, gan gynnwys arddangosiadau drilio uniongyrchol.
  • Lletygarwch – Bar ac ardal arlwyo.
  • Adloniant gyda’r hwyr

 


Cyfleoedd Tendro

Bar

Bwyd Cyflym

Arlwyo

Toiled

CYFLEOEDD

Mae gennym ddigon o gyfleoedd noddi, arddangos ac hysbysebu ar gael yn ein digwyddiad. Darllenwch y pecyn am rhagor o wybodaeth.

GWNEWCH GAIS!

I wneud cais am unrhyw un o’r cyfleodd sydd ar gael gofynnwyn yn garedig i chi lawrlwytho a llenwi’r ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30ain o Ionawr 2024.

Tocynnau

Bydd modd archebu tocynnau cynnar rhwng y 1af o Ionawr 2024 a 1af o Ebrill.

CYSYLLTWCH

Oes oes gennych unrhyw ymholiad mae croeso I chi gysylltu gyda ni: info@royalwelshgrasslandevent.com Wyn Evans – Chairperson 07817 592411 Eleri James – Secretary 07976 100043 Rhian Davies – Treasurer 07751 789865