Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
20-21 May 2023.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
24-27 Gorffennaf 2023.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
27-28 Tachwedd 2023.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae triniaeth Cymorth Cyntaf ar gael yn y Ganolfan Cymorth Cyntaf, wedi’i lleoli yn Nhŵr Rheoli Cylch y Defaid, a bydd yn cael ei gweithredu gan Medical Solutions ac ar agor o 12 hanner dydd ar ddydd Gwener 19 Mai tan ddiwedd yr Ŵyl.
Mae gofal dros nos cyfyngedig yn cael ei ddarparu gan y tîm cymorth cyntaf.
Rhif Ffôn: 01982 554407
O 6.00 y pnawn ddydd Gwener 19 Mai tan 6.00 y pnawn ddydd Sul 21 Mai.
Mae toiledau i’r anabl wedi’u lleoli o fewn y prif flociau toiledau wrth Gylch y Moch a’r Geifr, Pafiliwn Trefaldwyn, Neuadd Clwyd Morgannwg, o fewn Canolfan y Tyddynwyr (Neuadd Arddangos De Morgannwg), Canolfan Groeso (Aelodau) a bloc toiledau Cylch y Ceffylau.
Mae cyfleusterau newid babanod wedi’u darparu yn y blociau toiledau’n gyfagos i Gylch y Geifr, Tanffordd y Prif Gylch, Canolfan Groeso (Aelodau), Pafiliwn Trefaldwyn, Canolfan y Tyddynwyr (Neuadd Arddangos De Morgannwg), Bloc Toiledau Cylch y Ceffylau (yn y maes parcio) a’r bloc Toiledau gerllaw Banc HSBC.
Bydd man bwydo a newid babanod ar gael yn cael ei staffio gan Stiwardiaid y Gymdeithas wedi’i leoli mewn uned o dan y brif eisteddle. Bydd y gwasanaeth ar gael o 10.00 y bore tan 5.00 y pnawn.
Bydd parcio am ddim mewn mannau dynodedig ar faes y sioe.
Parcio i’r anabl:
Bydd rhywfaint o le’n cael ei gadw ym mhen blaen meysydd parcio sydd wedi’u lleoli yn rhan isaf maes y sioe. Dim ond y cerbydau hynny sy’n arddangos sticer car Bathodyn Glas/Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yn cael blaenoriaeth. Os nad oes pàs wedi’i arddangos bydd y Gymdeithas yn parcio ymwelwyr yn y maes parcio cyntaf sydd ar gael.
Mae croeso i gŵn yn y digwyddiad ond rhaid eu cadw ar dennyn yr holl amser a byddir yn eu cyfyngu rhag mynd i mewn i’r adeiladau, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys dofednod, da byw, ac arlwyo. Bydd eithriadau’n cael eu gwneud yn y Neuadd Fwyd neu safleoedd arlwyo i ymwelwyr gyda chŵn cymorth neu gŵn clywed.
Peidiwch â gadael cŵn mewn ceir da chi.
I gael mwy o wybodaeth i ymwelwyr ynghylch yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad sy’n dod darllenwch fwy yma.