Ymgeisiwch am stondin masnach - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Sioe Frenhinol Cymru

Prif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru…

Ynghyd â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau da byw a cheffylau, mae gan y sioe rywbeth i ddiddori pawb trwy ei hystod eang o weithgareddau gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd cyffrous.

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol ar gyfer cwmniau sy’n cynnig nwyddau megis cynnyrch amaethyddol, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, taclau garddio, pob mathau o nwyddau i’r cartref a llawer iawn rhagor.

Cyflwynwch eich Mynegiant o Ddiddordeb i fasnachu yn Sioe Frenhinol Cymru 2026

Masnachwyr Newydd
Dyddiad cau: 1 Mawrth 2026

Masnachwyr sy’n Dychwelyd
Dyddiad cau: 1 Chwefror 2026

Os bydd unrhyw fasnachwyr sy’n dychwelyd yn gwrthod eu gwahoddiad, cynigir lleoedd gwag i ymgeiswyr newydd.

Am unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch e-bost at [email protected]

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch:
Josie Evans
Swyddog Stondinau Masnach
Ffôn
01982 553683

ARDDANGOS YN Y NEUADD FWYD

Neuadd Fwyd

Mae’r Neuadd Fwyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn arddangos bwyd a gaiff ei dyfu, ei ddatblygu, ei bacio neu ei gynhyrchu yng Nghymru.

Fel y gwnaeth yn ystod blynyddoedd blaenorol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhedeg Lolfa Fasnach i Fusnesau ar lawer cyntaf y Neuadd Fwyd, a bydd ar gael i bob arddangoswr. Bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei darparu ar gyfer bob arddangoswr llwyddiannus.

Os hoffech gael stondin o fewn y neuadd fwyd cysylltwch â Laura Alexander ar e-bost: [email protected]

A hoffech chi wybod rhagor am y neuadd fwyd?
Laura Alexander
Ymgynghorydd Stondinau Masnach y Neuadd Fwyd
Ffôn
07773384569