Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Dathliad deuddydd o fywyd tyddynod a chefn gwlad, â rhaglen brysur o adloniant, gweithgareddau addysgol, gweithdai am ddim, da byw, neuadd fwyd, llecyn bwyd stryd ac adloniant, cannoedd o stondinau masnach, a pherfformiadau cyffrous yn y prif gylch.
Mae’r Ŵyl Wanwyn yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol i gwmnïau sy’n cynnig nwyddau fel cynnyrch amaethyddol, garddwriaeth, cyflenwadau garddio, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, pob math o nwyddau cartref a llawer mwy.
Cynhelir Gŵyl Wanwyn 2025 ar ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Mai.
Mae ceisiadau ar gyfer Stondinau Masnach Gŵyl Wanwyn 2025 bellach ar agor.
Gweler y dolenni isod am arweiniad i arddangoswyr.
Mae’r Ardal Bwyd a Diod yn yr Ŵyl Wanwyn yn cynnwys dwy ardal wahanol ac ar wahân ar gyfer siopau manwerthu a mannau arlwyo. Bydd siopau manwerthu yn y Neuadd Fwyd a mannau arlwyo yn yr Pentref Bwyd Cymreig.
Os hoffech gael stondin yn y neuadd fwyd cysylltwch â Laura Alexander e-bost [email protected]