Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn rhoi cyfle perffaith ac unigryw i ddangos y gadwyn fwyd o’r fferm i’r fforc i blant ysgol a myfyrwyr coleg.
Gan gyffwrdd â sawl agwedd ar y cwricwlwm, mae ymweliad â’r Ffair Aeaf yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am amaethyddiaeth mewn perthynas ag astudiaethau busnes, coginio a maeth, lles anifeiliaid, daearyddiaeth, mathemateg a llawer mwy.
Mae tripiau ysgolion a cholegau yn cael eu croesawu ac yn wir eu hannog i ddod i’r Ffair Aeaf. Mae rhannu’r wybodaeth ynglŷn ag amaethyddiaeth a sut y caiff bwyd ei gynhyrchu yn hanfodol bwysig ac yn fenter y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn awyddus i gymryd rhan gynyddol ynddi.
Mae Ffair Aeaf 2025 AM DDIM i blant cynradd ac uwchradd o dan 16 oed a bydd ffi mynediad gostyngol o £10 yn cael ei gynnig i fyfyrwyr addysg uwch.
Rhaid i bob taith ysgol gofrestru ymlaen llaw erbyn 14 Tachwedd 2025.
Bob blwyddyn, mae’r Ffair Aeaf yn cyflwyno rhaglen addysgol sy’n canolbwyntio ar thema amaethyddol wahanol. Y ffocws eleni yw ‘Ein Bwyd / Our Food‘, gan dynnu sylw at bwysigrwydd helpu plant i ddeall o ble mae eu bwyd yn dod a sut mae’n cael ei gynhyrchu.
Bydd gan ysgolion cynradd y cyfle i gofrestru eu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 am fore llawn cyfres o weithdai rhyngweithiol a sesiynau Holi ac Ateb dan arweiniad ein sefydliadau partner a siaradwyr gwadd.
Uchafbwyntiau ar gyfer 2025:
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru eich ysgol, dilynwch y ddolen isod.
O weld yr anifeiliaid yn eu cylchoedd dangos, bydd y myfyrwyr yn gallu amgyffred y nifer enfawr o wahanol fridiau – pa un ai’n wartheg, defaid a moch neu’n dda pluog yn y Sioe Ddofednod ar ail ddiwrnod y ffair, bydd cannoedd o wahanol fridiau ar ddangos. Sgwrsiwch â’r ffermwyr a’r arddangoswyr i gael gwybod beth y mae magu’r da byw yn ei olygu.
Nesaf, gwyliwch wrth i’r anifeiliaid gael eu dangos. Edrychwch arnynt yn y cylchoedd a byddwch yn dyst i’r broses beirniadu – beth sy’n gwneud yr anifail perffaith a phwy fydd yn mynd â’r rhoséd y mae pawb yn ei deheu am adref?
Wedyn, mae yna’r arwerthiannau da byw ar y prynhawn dydd Mawrth, lle mae cannoedd o brynwyr yn ymgiprys i brynu’r anifeiliaid gorau.
Bydd ymweliad â’r neuadd carcasau yn dangos i’r myfyriwr chwilfrydig sut olwg sydd ar yr anifeiliaid pan ddônt o’r lladd-dy. Bydd cannoedd o enghreifftiau o garcasau wedi’u harddangos gyda’r cyfle i siarad â phobl broffesiynol ynghylch yr hyn sydd ar ddangos ac o ble daw ein darnau poblogaidd o gg.
Nesaf mae yna’r pafiliwn cynhyrchion cig, lle gwelwch chi enghreifftiau o ddofednod wedi’u trin ar y dydd Llun a selsig a chynhyrchion cig eraill ar ddau ddiwrnod y ffair. Bydd yna arddangosiadau bwtsiera i weld sut y mae’r carcasau’n cael eu torri’n ddarnau o gig yr ydym yn eu hadnabod o ffenestr y cigydd neu silffoedd yr archfarchnad.
Yna, mae arddangosiadau coginio’n dangos sut y gellir defnyddio’r cig mewn pob math o seigiau, o fyrgyrs, i dro-ffrio, o gyrri i frechdanau bacwn … mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd.
Wrth gwrs, mae yna’r cynnyrch gorffenedig. Rhwng y neuadd fwyd a marchnad Nadolig y ffermwyr, bydd y myfyrwyr yn gweld y cynnyrch gorffenedig ar werth ac yn cael ei arddangos – yr enghraifft berffaith o werth oriau, diwrnodau, wythnosau, weithiau blynyddoedd o ymdrech gan fridwyr, ffermwyr, cigyddion a chynhyrchwyr i ddod â’r bwyd yr ydym i gyd yn ei adnabod ac mor hoff ohono inni
Bydd adnoddau addysgol a thaflenni gweithgareddau ar gyfer plant oed cynradd sy’n ymwneud â’r pwnc ‘Ein Bwyd / Our Food’ ar gael yn y Ffair Aeaf ac i’w lawrlwytho ar wefan Twinkl.