Rhoddwch - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn sefydliad elusennol sy’n ymroddedig i hyrwyddo amaethyddiaeth, bywyd gwledig a chefn gwlad Cymru. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar haelioni cefnogwyr i gyflawni ein hamcanion, o addysgu cenedlaethau’r dyfodol i warchod traddodiadau gwledig. Mae eich rhodd yn ein helpu i barhau â’r gwaith hanfodol hwn. Ystyriwch wneud cyfraniad gan ddefnyddio’r ddolen isod – mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth. Diolch am eich haelioni