Atyniadau Sioe - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Arddangosfa Ceffylau Trwm

Mae’r Arddangosfa Ceffylau Trwm yn cynnwys ceffylau trwm o bob cwr o’r Deyrnas Unedig. Fe fydd llawer o’r prif fridiau i’w gweld, gan gynnwys Ceffylau Gwedd, Clydesdale, Percheron a Cheffylau Belgaidd Gogledd America.

Dyma berfformiad i’ch syfrdanu wrth i’r ceffylau yn eu harneisiau ddawnsio o amgylch y Cylch i gerddoriaeth. Fe ddaw 10 pâr at ei gilydd, gan groesi a throelli rhwng ei gilydd. Mi fydd yn sicr yn wledd i’r llygaid!

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld llawer llai o fridiau ceffylau trwm yn y Sioe. Wrth i ni ailgyflwyno’r ceffylau trwm ein nod yw tynnu sylw’r cyhoedd at eu hystwythder a’u harddwch.

Meirion Owen a’i Gwn Defaid

Wedi’i eni a’i fagu’n ffermwr, mae Meirion wedi bod o gwmpas cŵn defaid ar hyd ei oes. Ef yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i fod yn gysylltiedig â’r grefft o hyfforddi, cystadlu ac arddangos gyda’i gŵn defaid dros y wlad i gyd.

Mae Meirion yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a bu mewn tair cyfres o raglen boblogaidd iawn y BBC ‘One Man and His Dog.’ Mae wedi’i bortreadu ar lawer o raglenni teledu yn cynnwys ‘Countryfile’ a ‘The One Show’ y BBC, ‘Pet Nation’ SKY1 ac yn ddiweddar ar ‘Farmers Country Showdown’ a ‘Songs of Praise.’

 

Gyrru Cerbydau Tristar

Bydd un o’n ffefrynnau, sef tîm Gyrru Cerbydau Tristar, yn ô i arddangos yn y Prif Gylch bob dydd yn ystod y Sioe.

Bydd y Gard a’r Chwythwr Corn, Martin Horler hefyd yn rhoi cyflwyniad am hanes y Tîm Coetsio yn y Cylch Ceffylau ddydd Mawrth am 12.15pm.

Bydd y ceffylau Tristar yn cael eu cadw yn y stablau arferol, felly cofiwch fod croeso i chi ymweld â nhw yn ystod y Sioe.

Band Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol

Mae Band Catrodol y Cymry Brenhinol yn un o’r ychydig iawn o’r bandiau pres i gyd o fewn Cerddoriaeth y Fyddin Brydeinig, gan dynnu chwaraewyr o dreftadaeth a diwylliant bandiau pres cyfoethog rhanbarth De Cymru i’w rengoedd. Mae’r cerddorion i gyd yn aelodau o’r Fyddin Wrth Gefn ac yn ymrwymo i’r Band o gwmpas eu galwedigaethau sifil.

Mae i’r Band amlochredd steil a repertoire ar y llwyfan cyngerdd ac ar barêd fel band gorymdeithio.  Fe’i gwelir yn rheolaidd trwy’r dywysogaeth i gyd, yn darparu amrywiaeth eang o ddyletswyddau cyhoeddus a seremonïol o saliwtiau Gynnau Brenhinol a pharedau rhyddid i’w bresenoldeb parhaus yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ble mae’n perfformio i gefnogwyr rygbi ledled y byd.

Chwaraeodd y Band ran ganolog yn y digwyddiadau cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Diweddar Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II; yn darparu cefnogaeth gerddorol ar gyfer Cyhoeddi’r brenin newydd, ar gyfer ymweliad cyntaf Eu Mawrhydi y Brenin Charles III a’r Frenhines Camilla â Chymru, ac ar gyfer y Coroni dilynol ym mis Mai 2023 hefyd.

Yn ogystal â pherfformiadau cartref, mae’r Band a’r Drymiau wedi teithio ledled Ewrop, Canada, ac Awstralia hefyd.  Mae’u cerddoriaeth wedi diddanu cynulleidfaoedd dros y Byd mewn nifer o datŵau milwrol, yn cynnwys Tatŵ Rhyngwladol Brenhinol Nova Scotia yng Nghanada, ac yn Nhatŵ Milwrol Rhyngwladol ‘Musikfest dêr Bundeswehr’ yn Düsseldorf, Yr Almaen.

Harlow White

Bydd prif ddylanwadwr y Deyrnas Unedig ym maes ceffylau a’r seren YouTube, Harlow White, yn dod â’i merlod, Panda a Popcorn, i Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf erioed!

Mae Harlow’n 13 mlwydd oed ac mae ei phroffil ar gyfryngau cymdeithasol yn tyfu a thyfu yn y gymuned geffylau ac ymhlith cynulleidfaoedd ifancach, ac erbyn hyn mae dros 500k o bobl yn tanysgrifio i’w sianel YouTube ac mae ganddi ddilyniant aruthrol ar Instagram a TikTok.

Gallwch weld Harlow a’i merlod yn y Cylch Ceffylau ar gyfer perfformiad yn y bore a’r prynhawn, dydd Llun a dydd Mawrth y Sioe. Fe fydd digwyddiad Cwrdd a Chyfarch hefyd gyda chyfle i chi gwrdd â Harlow a chael llun wedi’i lofnodi! Bydd gofyn i chi  drefnu’ch lle ymlaen llaw.

(dydd Llun a dydd Mawrth yn unig)

Amserlen ddyddiol

Bob dydd, gallwch chi fwynhau rhaglen 12 awr o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous yn Sioe Frenhinol Cymru. Bydd amserlen 2025 ar gael yn fuan.

Lawrlwythwch Ap Frenhinol Cymru

Bydd fersiwn 2025 o Ap Frenhinol Cymru ar gael i’w lawrlwytho. Mae’n adnodd dwyieithog hwylus sy’n cynnwys map rhyngweithiol, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion ynghylch cadw’n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.

PRYNWCH EICH TOCYNNAU NAWR

Peidiwch ag oedi! Prynnwch eich tocynnau nawr.