Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Bob blwyddyn, bydd gan y gymdeithas Sir Nawdd wahanol. Mae hyn yn tarddu o hanes cynnar y sioe, pan newidiai ei leoliad flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn symud o gwmpas yr hen siroedd yng Nghymru.
Ers symud i’n cartref parhaol yn Llanelwedd yn 1963, mae’r siroedd yn eu tro yn Sir Nawdd. Yn ystod eu blwyddyn benodol, bydd y Sir Nawdd yn penodi Llywydd a Llysgenhades y Gymdeithas, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb am godi arian a threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i hyrwyddo gwaith y gymdeithas a’r digwyddiadau.
Strwythur unigryw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru o siroedd nawdd a phwyllgorau ymgynghorol yw beth sy’n gwneud y gymdeithas yn wahanol i rai eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru yn cadw perchnogaeth o’r digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian yr holl siroedd ers 1963 wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd, ac mae’r cyfan wedi’i fuddsoddi’n ôl i faes y sioe, gan ei wneud yn un o’r rhai gorau yn Ewrop. Mae hyn wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o gydberchnogaeth o’n safle.
Eleni yw cyfle Caernarfon i fod yn Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru dan arweiniad eu Llywydd, John Owen.
Mae dwsinau o ddigwyddiadau ar gyfer codi arian wedi eu trefnu ar draws y sir. Mi fydd y sir yn cynnal eu digwyddiad amaethyddol, sef Digwyddiad Ffermio’r Ucheldir ar ddydd Iau 12fed o Fehefin ar fferm eiconig Hafod Y Llan, ger Beddgelert.
2026 Sir Frycheiniog
2027 Ynys Môn
2028 Maesyfed
2029 Gwent
2030 Meirionnydd
2031 Sir Gaerfyrddin
2032 Maldwyn
2033 Sir Benfro
2034 Clwyd
2035 Morgannwg
2036 Ceredigion