Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Llywydd 2024 – Denley Jenkins

Mae Denley Jenkins yn byw ac yn gweithio ar fferm ddefaid a bîff 240 erw ger Castellnewydd Emlyn. Bu’n arddangos gwartheg ers yr 1980au cynnar mewn llawer o sioeau lleol a chenedlaethol. Yn 2018 estynnodd Denley a’r teulu ochr arlwyo busnes y fferm, gan gynnal llawer o briodasau, sioeau amaethyddol, digwyddiadau CFfI, derbyniadau corfforaethol, Diwrnodau Agored Fferm ac arwerthiannau da byw. Mae’r cwmnïau arlwyo’n cyflogi staff lleol ac yn cynnal y pwyslais ar gynnyrch lleol, gan gefnogi Cig Eidion Cymreig Celtic Pride gyda balchder ym mhob un o’u digwyddiadau.

“Heb amheuaeth, dyma’r anrhydedd fwyaf a gaf i byth.”

“Ymunais â’r Gymdeithas gyntaf yn 1981, ac ers hynny rwyf wedi elwa’n fawr, gan wneud cyfeillion oes ar hyd y ffordd. Rwyf yn credu’n gryf fod cefnogi sioeau bach a lleol yn codi safon Sioe Frenhinol Cymru. Dyna lwyfan sydd gennym.”

Llysgennad 2024 – Esyllt Griffiths

“Rwyf mor ddiolchgar o fod yn Llysgennad i’r Gymdeithas.”

“Mae Sioe Frenhinol Cymru wedi bod yn rhan mor enfawr o’m bywyd ac ni feddyliais erioed y byddwn yn cael y fath gyfle arbennig. Mae 2024 yn argoeli bod yn flwyddyn i’w chofio ac ni allaf aros i arddangos y gorau o Geredigion. Ymlaen â ni fel un teulu mawr!”