Yn ogystal â’r amserlen arferol sy’n llawn cystadlaethau, dosbarthiadau, arddangosfeydd a sioeau, bydd y digwyddiad deuddydd yn llawn dathliadau Nadoligaidd, gan gynnwys siopa hwyr ac arddangosfa tân gwyllt nos Lun.
I ffwrdd o’r cylchoedd beirniadu, bydd cynhyrchwyr bwyd gorau Cymru yn arddangos eu cynnyrch a bydd siopwyr Nadolig yn gallu pori drwy gannoedd o stondinau masnach.
Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau wedi’i chynnwys yn y catalog, sydd ar gael mewn bythau o amgylch maes y sioe am £5.00.
Cystadlaethau
Mae gan Ffair Aeaf Frenhinol Cymru enw da am fod yn un o’r sioeau da byw dethol gorau yn y DU, os nad yn Ewrop. Mae bridwyr da byw balch yn dod â’u hanifeiliaid gorau o bell ac agos i gystadlu am gyfle i ennill teitl pencampwriaeth a’u cyfran o’r arian gwobr sydd ar gael.
Ochr yn ochr â’r da byw o’r safon uchaf sy’n cystadlu, gall ymwelwyr fwynhau amrywiaeth eang o atyniadau, gan gynnwys cystadlaethau ceffylau, arddangosfeydd cigyddiaeth gan arbenigwyr, crefftau cartref, y Sioe Gŵn ac adran gelf flodau drawiadol.
Gyda channoedd o gystadlaethau’n cael eu cynnal drwy gydol y ddau ddiwrnod, mae rhywbeth o ddiddordeb i bawb.
Siopa
Mae’r Ffair Aeaf yn gyfle perffaith i brynu eitemau unigryw o ansawdd o’n hystod eang o gynhyrchion amaethyddol, nwyddau cartref ac anrhegion, celf a chrefft, cynhyrchion iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, a llawer mwy.
Bydd y stondinau masnach ar agor gyda’r nos ddydd Llun 24 Tachwedd ar gyfer siopa Nadolig hwyr.
Bwyd a Diod
Mae Neuadd Fwyd y Ffair Aeaf yn denu cynhyrchwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt, ac mae’n llawn danteithion blasus, arddangosiadau, anrhegion Nadolig a samplau blasus.
Mae ardal boblogaidd Gwledd | Feast, sydd wedi’i lleoli yn y Sied Gneifio, yn addo bod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer bwyd stryd Cymreig lleol, gan gynnig popeth o fyrbrydau sawrus i ddanteithion Nadoligaidd.
Dewch draw, bwytewch, yfwch a mwynhewch!
Pentref Ceffylau Trwm a Chŵn
Bydd ardal benodol ym Mhafiliwn y Gofaint Pedol yn arddangos Ceffylau Trwm godidog ochr yn ochr â’r Sioe Gŵn, a gynhelir mewn pabell fawr gerllaw.
Gan adeiladu ar lwyddiant y Pentref Ceffylau Trwm hynod boblogaidd a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Sioe 2025, bydd yr atyniad cyffrous hwn hefyd yn cynnwys arddangosiadau byw o waith gof pedol ac arddangosfeydd trawiadol – atyniad na ddylid ei golli.
Tân Gwyllt
Mae’r arddangosfa tân gwyllt ysblennydd yn ffefryn mawr ymhlith ymwelwyr â’r Ffair Aeaf. Dyma’r ffordd berffaith o gloi diwrnod cyntaf y digwyddiad, felly dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau ynghyd i fwynhau’r uchafbwynt gwych hwn.
Gallwch weld yr arddangosfa am 7:00pm ddydd Llun 30 Tachwedd – gwnewch yn siŵr nad ydych yn ei cholli!
Adloniant Cerddorol
Mwynhewch awyrgylch Nadoligaidd y Ffair Aeaf gydag adloniant cerddorol byw ar ddau ddiwrnod y digwyddiad! Mwynhewch amrywiaeth o berfformiadau ar Lwyfan Gwledd yn y Sied Gneifio, gan gynnwys popeth o dalent leol i ffefrynnau tymhorol bywiog.
P’un a ydych yn aros am wrandawiad byr neu’n ymgartrefu i fwynhau set gyfan, mae’r gerddoriaeth yn ychwanegu trac sain hudolus at eich profiad yn y Ffair Aeaf.
Groto Siôn Corn
Dewch draw i gwrdd â Siôn Corn yn ei Groto yn y Ffair Aeaf! Bydd yn Nhŵr y Cloc, Tŷ Ynys Môn, ger y Bandstand, ar ddau ddiwrnod y digwyddiad.
Bydd Siôn Corn ar gael ddydd Llun, 30 Tachwedd rhwng 2:00pm a 3:30pm ac rhwng 4:30pm a 6:00pm, ac ar ddydd Mawrth, 1 Rhagfyr rhwng 11:00am a 12:30pm ac rhwng 2:00pm a 3:30pm.
Teledu a Radio
Peidiwch â phoeni os na allwch ddod yma i fwynhau’r digwyddiad yn bersonol, mae digon o gyfleoedd i ddal i fyny â’r holl fwrlwm o’r Ffair Aeaf ar y teledu a’r radio.
Bydd S4C yn darlledu’r holl gyffro’n fyw ar draws y ddau ddiwrnod, gyda rhaglen uchafbwyntiau bob nos. Bydd BBC Radio Cymru a Radio Wales yn darparu darllediadau byw o faes y sioe drwy gydol y digwyddiad.
Lawrlwythwch yr Ap
Bydd rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael ar Ap Sioe Frenhinol Cymru. Lawrlwythwch ein hap rhad ac am ddim a dechreuwch greu eich amserlen eich hun ar gyfer y Ffair Aeaf er mwyn sicrhau nad ydych yn colli dim pan fyddwch yn cyrraedd yma.