Mae maes y sioe yn lle delfrydol i gynnal eich diwrnod arbennig – beth bynnag fo’r math o briodas rydych chi’n ei chynllunio, mawr neu fach, ffurfiol neu fwy anffurfiol… mae rhywbeth ar gael i bawb yma.

Wedi’i leoli yng nghanol prydferthwch canolbarth Cymru, mae’r maes yn eistedd o fewn 150 o erwau ac yn mwynhau golygfa fendigedig o’r wlad o amgylch, gan ddarparu’r cefndir perffaith i chi greu dathliad priodas eich breuddwydion, ac mae ein tîm ymroddedig wrth law i sicrhau bod eich diwrnod yn un i gofio.

Byddem yn falch iawn o glywed am eich cynlluniau ar gyfer eich diwrnod mawr!

Derbyniadau a Dathliadau

Mae gennym amrywiaeth o wahanol fannau ar gael i’w llogi, gan ddarparu ar gyfer 30 i 400 o westeion

Canolfan yr Aelodau
Pafiliwn Trefaldwyn
Pafiliwn Rhyngwladol

 

Hoffech chi wybod mwy? Cysylltwch â ni:
lynwen williams
Swyddog Digwyddiadau
Ffôn
E-bost

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.