Y Gymdeithas
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ym 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn yr un flwyddyn.
Mae’r Gymdeithas wedi dod yn bell ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae ein dau brif ddigwyddiad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae’r llwyddiant hwn wedi galluogi datblygiad helaeth ar faes sioe parhaol Llanelwedd, a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf ym 1963 ac sydd wedi’i leoli yng nghanol cefn gwlad hardd Canolbarth Cymru.
Amdanom ni
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad amaethyddiaeth a’r economi wledig yng Nghymru ers dros ganrif, ers ei sefydlu ym 1904.
Heddiw, mae ein gwaith yn cynnwys darparu cymorth i fusnesau, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig, yn ogystal â threfnu a chynnal prif ddigwyddiadau’r Gymdeithas; Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.
Mae’r Gymdeithas yn gwmni cofrestredig (Rhif Cofrestru’r Cwmni – 892851 Cymru) ac yn elusen gofrestredig (Rhif Cofrestru’r Elusen – 251232), gyda’i swyddfeydd wedi’u lleoli ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Powys.
Gan gefnogi tîm o staff, mae’r Gymdeithas yn cael ei rhedeg drwy strwythur pwyllgorau. Mae’r pwyllgorau hyn, sy’n cynnwys gwirfoddolwyr gweithgar ac ymroddedig, yn ystyried popeth o brosiectau adeiladu newydd a cheisiadau cynllunio, i reolau cystadlaethau a stondinau masnach… ynghyd â phopeth arall rhyngddynt.
Yna caiff penderfyniadau’r pwyllgorau eu hawdurdodi gan fwrdd y cyfarwyddwyr, sef ymddiriedolwyr y Gymdeithas. Mae’r bwrdd yn cynnwys grŵp o dros 40 o aelodau sy’n cynrychioli 14 pwyllgor ymgynghorol y Gymdeithas (12 yng Nghymru a dau yn Lloegr), sy’n cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Mae gan y bwrdd hefyd aelodau cyfetholedig, a ddewisir am eu sgiliau penodol i gryfhau rôl yr ymddiriedolwyr.
Caiff llywodraethu cyffredinol y Gymdeithas ei oruchwylio gan y cyngor, sy’n cyfarfod yn flynyddol i gadarnhau penderfyniadau a phenodi cyfarwyddwyr anrhydeddus.
Amcanion elusennol y Gymdeithas
- hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd, ac yn arbennig yng Nghymru;
- annog a hyrwyddo gwyddoniaeth amaethyddol, ymchwil ac addysg, yn enwedig mewn perthynas â bwyd, ffermio a chefn gwlad;
- hyrwyddo gwella da byw, lles anifeiliaid ac atal a dileu clefydau mewn anifeiliaid sy’n ddefnyddiol i bobl;
- cynnal arddangosiadau o ddulliau, technoleg a phrosesau amaethyddol modern;
- cynnal sioeau ar gyfer arddangos da byw, dofednod, cynnyrch fferm a garddwriaethol a choedwigaeth, ac ar gyfer arddangos dulliau amaethyddol, peiriannau a thechnoleg fodern, ynghyd â chynnal digwyddiadau ategol;
- hyrwyddo a datblygu, er budd ac addysg y cyhoedd, gadwraeth, diogelu a gwella’r amgylchedd ffisegol a naturiol; ac
- hyrwyddo celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wledig.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfansoddiad y Gymdeithas yn ein herthyglau cymdeithasu.
Gadewch etifeddiaeth barhaol...
Helpwch ni i gefnogi cymunedau gwledig ac amaethyddiaeth yng Nghymru drwy ein cofio yn eich ewyllys. Rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a roddir inni, waeth pa mor fawr neu fach ydyw.