Yn wreiddiol, sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fel Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru yn 1904. Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol cyntaf y sylfaenwyr a’r cefnogwyr yn Ystafell Bwyllgora Deuddeg Tŷ’r Cyffredin yn Llundain, a daeth 20 ffigwr amlwg o Gymru,. Fe wnaethant basio nifer o reolau am gyfansoddiad y Gymdeithas a dyfarnu mai’r amcanion fyddai gwelliant wrth fagu stoc ac annog amaethyddiaeth ledled Cymru.

Heddiw, mae’r Gymdeithas yn sefydliad cenedlaethol sy’n annwyl gan bobl ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, a hynny ymhlith ffermwyr a’r gymuned wledig yn ogystal â phobl o bob cefndir, y mae llawer ohonynt wedi dod i ystyried Sioe Frenhinol Cymru yn uchafbwynt eu blwyddyn.

Nid felly y bu hi erioed. Roedd dechrau’r Gymdeithas yn frith o broblemau ac anghydfod ac weithiau hyd yn oed elyniaeth lwyr gan amryw o wrthwynebwyr a charfanau penderfynol a oedd â syniadau gwahanol, yr oeddynt yn teimlo’n gryf yn eu cylch, am lawer o faterion. Serch hynny, trechwyd y sgarmesau dechreuol hyn yn y pen draw a goroesodd a datblygodd y Gymdeithas yn ystod ei blynyddoedd cychwynnol yn Aberystwyth, ble cynhaliwyd y sioe gyntaf ym mis Awst 1904 o dan lywyddiaeth Iarll Powys, ac yna drwy’i bodolaeth ymfudol yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf pan symudodd y sioe i 37 o leoliadau gwahanol bob yn ail rhwng Gogledd a De Cymru.

Cafodd y Sioe ei chanlyn yn aml gan anawsterau ariannol, a godai gan amlaf yn sgil y gost o symud o un safle sioe i’r nesaf. Dim ond wedi i’r Sioe Fawr ymgartrefu ar ei safle presennol yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, yn 1963, y newidiodd pethau er gwell yn ariannol. Hyd yn oed wedyn roedd ei sefyllfa yn dal i fod yn ansicr a bu’n rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd yn ystod y blynyddoedd cynnar yn Llanelwedd i gadw’r Gymdeithas i fynd.

Bellach, bydd oddeutu 8000 o gynigion da byw ac 20,000 o geir bob dydd ynghyd â channoedd o lorïau a threlars stoc yn dod at ei gilydd ar Faes y Sioe yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer yr achlysur pedwar diwrnod blynyddol sydd wedi tyfu i fod yn sioe amaethyddol fwyaf poblogaidd Prydain.

Arweiniodd llwyddiant Sioe Frenhinol Cymru at greu dau ddigwyddiad nodedig ychwanegol: y Ffair Aeaf, a lansiwyd ym 1990, a’r Ŵyl Tyddyn a Gardd, a gyflwynwyd i faes y sioe yn 2003 ac a ddaeth i ben yn 2025. Daeth y ddau yn amlwg yn gyflym, gyda’r Ffair Aeaf yn parhau heddiw fel un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru.

Heddiw, mae rôl Sioe Frenhinol Cymru ar ei gwedd gyfoes yn un gron a chyflawn. Yn ogystal â’i phrif swyddogaeth o arddangos goreuon da byw Cymru a’r bwyd a diod rhagorol a gynhyrchir yng Nghymru, mae’n cwmpasu rhychwant ehangach ffermio a bywyd gwledig ac yn llwyddo i bontio’r bwlch rhwng gwlad a thref. Mae’n darparu rhywbeth i ddiddori pawb drwy’i hamrywiaeth caleidosgopaidd o weithgareddau, sy’n cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, a rhaglen 12 awr o adloniant cyffrous sy’n parhau trwy gydol pob un o bedwar diwrnod y sioe.

Mae’n ddigwyddiad sy’n cael ei fwynhau gan y miloedd o gystadleuwyr, arddangoswyr ac ymwelwyr a fydd yn mynychu’r sioe flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae hefyd yn datblygu’n lle pwysig i wneud busnes a thrafod gwleidyddiaeth. Bydd dwsinau o bwysigion a gwneuthurwyr polisi amlwg yn dod ynghyd yno, felly mae’r sioe yn cynnig llwyfan rhyngwladol i hwyluso trafodaethau sy’n effeithio ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru a’r economi wledig rhwng nifer o unigolion a sefydliadau dylanwadol iawn.