Bob blwyddyn mae gan y gymdeithas Sir Nawdd wahanol. Mae gwreiddiau hyn yn hanes cynnar y sioe, pan oedd ei lleoliad yn newid o flwyddyn i flwyddyn gan symud o gwmpas hen siroedd Cymru.
Ers symud i’n cartref parhaol yn Llanelwedd ym 1963, mae’r siroedd yn cymryd eu tro i fod yn Sir Nawdd. Yn ystod eu blwyddyn, mae’r Sir Nawdd yn penodi Llywydd a Llysgennad y Gymdeithas, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb am godi arian a threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i hyrwyddo gwaith y Gymdeithas a’i digwyddiadau.
Strwythur unigryw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru o siroedd nawdd a phwyllgorau ymgynghorol sy’n gosod y Gymdeithas ar wahân i eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i deimlo perchnogaeth dros y digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian yr holl siroedd ers 1963 wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd, gyda’r cyfan yn cael ei ailfuddsoddi ym maes y sioe, gan ei wneud yn un o’r goreuon yn Ewrop. Mae hyn wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth ar y cyd o’n safle.
Brycheiniog 2026
Eleni, tro Brycheiniog yw bod yn Sir Nawdd Sioe Frenhinol Cymru, gyda Gethin Havard yn arwain fel Llywydd, ochr yn ochr â Teleri Haf Thomas fel Llysgennad.
Mae dwsinau o ddigwyddiadau codi arian eisoes wedi’u cynnal, gan gynnwys y Digwyddiad Glaswelltir, Hau Heddiw ar gyfer Yfory Gwyrddach, a gynhaliwyd ar Fferm Cwmbrynich ddydd Gwener 12 Mehefin 2026.
Ynys Môn 2027
Y flwyddyn nesaf, Ynys Môn fydd Sir Nawdd Sioe Frenhinol Cymru. Bydd Susan Jones yn arwain fel Llywydd, gyda Mari Llifon Jones yn Llysgennad.
Mae digwyddiadau codi arian eisoes wedi bod yn cael eu cynnal ledled y Sir, gyda llawer mwy i ddod wrth iddynt edrych ymlaen at 2027!
Llysgennad 2028
Allech chi fod y person nesaf i hyrwyddo amcanion y Gymdeithas a bod yn lladmerydd a chodwr arian allweddol ar gyfer Sir Nawdd Maesyfed?
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â brwdfrydedd a hyder ar gyfer rôl anrhydeddus Llysgennad 2028 y CAFC i hyrwyddo nodau ac amcanion y Gymdeithas.
Dylid llenwi’r ffurflen gais isod a’i dychwelyd at y Pennaeth Gweinyddiaeth, drwy e-bost at [email protected] erbyn diwedd y diwrnod gwaith ddydd Gwener 23 Hydref 2026.
Siroedd Nawdd y Dyfodol
2026 Sir Frycheiniog
2027 Ynys Môn
2028 Maesyfed
2029 Gwent
2030 Meirionnydd
2031 Sir Gaerfyrddin
2032 Maldwyn
2033 Sir Benfro
2034 Clwyd
2035 Morgannwg
2036 Ceredigion