Gethin WT Havard, Llywydd 2026

Mae Gethin, sy’n ffermio gyda’i ddau frawd ger Pontsenni, yn cadw buches bîff sugno a diadell o ddefaid magu. Yn eiriolwr uchel ei barch dros amaethyddiaeth Cymru, mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Cymdeithas Magwyr Lloi Sugno Brycheiniog a Maesyfed ac wedi cynrychioli De Cymru ar Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain. Gyda chefnogaeth ei wraig Ceri, Dirprwy Arglwydd Raglaw Powys, a’u tair merch, bydd yn arwain Sir Frycheiniog drwy flwyddyn o godi arian, ymgysylltu â’r gymuned a gweithgareddau hyrwyddo cyn Sioe Frenhinol Cymru 2026.

Teleri Haf Thomas, Llysgennad 2026

Yn raddedig dosbarth cyntaf o Aberystwyth ac yn Arweinydd y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Menter a Cyswllt Ffermio, bydd Teleri yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo gweithgareddau Sir Frycheiniog, cefnogi digwyddiadau, a chynrychioli’r sir yn nigwyddiadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru dros y flwyddyn nesaf.

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.