Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad amaethyddiaeth a’r economi gwledig yng Nghymru, ers ei sefydlu yn 1904.
Gyda’i amcanion i wasanaethu buddiannau gorau diwydiant Amaethyddiaeth Cymru, mae’r aelodau’n gwneud cyfraniad hanfodol at sicrhau bod y gymdeithas yn darparu cymorth i fusnesau, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.
Yn rhan hanfodol o ethos Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gall aelodau fod yn falch o’r ffaith eu bod yn cefnogi nodau elusennol y gymdeithas. Cyflawnir y rhain trwy ddarparu gwobrau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau, ynghyd â threfnu a llwyfannu tri digwyddiad ein cymdeithas; yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.
Mae digwyddiadau’r gymdeithas yn dangos gwerth y diwydiant amaethyddol ehangach, gan ddathlu a chyfuno pob elfen o fwyd a ffermio mewn un man. Mae’r diwydiant yn wynebu heriau arwyddocaol iawn, felly mae’n bwysicach nag erioed erbyn hyn i ddangos eich undod a dod yn aelod o’r gymdeithas.
Ynghyd â llu o fuddion a gyngir i aelodau, fe wnaiff eich aelodaeth gynorthwyo’r gymdeithas â’i nod o hyrwyddo elfennau gorau amaethyddiaeth Cymru a sicrhau hirhoedledd ein digwyddiadau annwyl iawn.
Buddion aelodaeth:
- Mynediad am ddim i Sioe Frenhinol Cymru bob dydd
- Defnydd o bafiliynau bwyta’r aelodau
- Mynediad i Far eiconig yr Aelodau ‘Maes M’
- Defnydd am ddim o adran yr aelodau o’r eisteddle (os bydd lle)
- Ffioedd cystadlu da byw rhatach ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf
- Mynediad i ‘Moliant Y Maes’ ar y dydd Sul cyn y Sioe
- Copi am ddim o Gylchgrawn blynyddol RWAS
- Gwahoddiad i fynychu a phleidleisio yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas
- Yr hawl i gymryd rhan yn etholiad aelodau i wasanaethu ar y pwyllgor ymgynghorol sirol
- Y gallu i wneud cais am lain ym Mharc Carafanau Gwyrdd Sioe Frenhinol Cymru (dim ond Aelodau Teulu ac Oes sy’n gymwys)
Pecynnau Aelodaeth ar gyfer 2026
Mae Debydau Uniongyrchol Blynyddol yn cael eu casglu ar 1af Chwefror bob blwyddyn.
Aelodaeth Flynyddol
Aelodaeth Oes
Mae tanysgrifiadau Aelodaeth Oes yn daladwy fel taliad un-tro neu mewn rhandaliadau dros 4, 7 neu 10 mlynedd.
*Yn cynnwys breintiau i briod/partner a phlant 17 oed ac iau.
Taliadau
Aelodaeth Flynyddol
Gellir gwneud taliadau gydag Arian Parod, Siec neu Ddebyd Uniongyrchol.
Os byddwch yn cwblhau mandad Debyd Uniongyrchol ar ôl 1 Chwefror, bydd y taliad yn cael ei gymryd ddiwedd y mis ac yna bydd yn ymuno â’r rhediad Debyd Uniongyrchol blynyddol ar 1 Chwefror y flwyddyn olynol.
Dylid gwneud pob siec yn daladwy i RWAS Cyf.
Taliadau Aelodaeth Oes
Gellir talu Aelodaeth Oes yn llawn gydag Arian Parod, Siec neu Ddebyd Uniongyrchol.
Rhaid i unrhyw un sy’n talu mewn rhandaliadau dros 4, 7 neu 10 mlynedd lenwi ffurflen Debyd Uniongyrchol.
Aelodaeth Anrheg
Rhowch yr anrheg o aelodaeth
Mae pecynnau Aelodaeth Flynyddol ac Oes ar gael i’w prynu fel anrhegion.
I brynu aelodaeth anrheg, cysylltwch â’r Swyddog Aelodaeth:To purchase a gift membership, contact the Membership Officer:
Cwestiynau Cyffredin
Oes gennych chi gwestiwn am aelodaeth? Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin i ddod o hyd i’r ateb...
Os hoffech chi siarad â rhywun cyn hynny, anfonwch neges trwy e-bost i [email protected].
Sylwch fod yn rhaid i’r tâl aelodaeth fod wedi cael ei dalu'n llawn adeg cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Nid yw Aelodau Unigol yn gymwys i wneud cais am lain ar y Maes Carafanau Gwyrdd, gan mai maes gwersylla i deuluoedd ydyw.
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad erbyn dydd Llun 22 Mawrth fan bellaf. Yna, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus 14 diwrnod i dalu ac i sicrhau eu llain ar y maes carafanau.
Gofynnwn yn garedig i chi adael digon o amser iddynt gyrraedd. Os nad ydych wedi cael eich bathodynnau erbyn dydd Llun 5 Gorffennaf, cysylltwch â'r Tîm Aelodaeth trwy e-bost - [email protected] neu dros y ffôn ar 01982 554 405.
Dylai aelodau gael neges trwy e-bost sy'n cynnwys dolen er mwyn prynu eu tocynnau. Bydd angen eich rhif aelodaeth arnoch er mwyn dilysu eich tocynnau.
Gellir prynu tocynnau trwy ein gwefan hefyd.
Eisiau gwybod mwy am ddod yn aelod? Cysylltwch â ni:

Bryony Pritchard (Swyddog Aelodaeth)
Ffôn:
01982 554405
E-bost:
[email protected]