Mae cystadlu wrth galon Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, gan ddod ag arddangoswyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt at ei gilydd i arddangos y gorau o faes amaethyddiaeth, sgiliau cefn gwlad a chrefftwaith. O ddosbarthiadau da byw a cheffylau uchel eu bri i’r Sioe Gŵn boblogaidd, Cystadlaethau Cigyddiaeth, Crefftau Cartref, Trefnu Blodau ac Wyau a Dofednod, mae cyfleoedd i gystadleuwyr o bob oedran sydd â phob math o ddiddordebau. Porwch drwy’r atodlenni, y wybodaeth am gofrestru a chanlyniadau pob adran isod.