Mae cael stondin fasnach yn un o'n digwyddiadau yn ffordd wych o hyrwyddo eich busnes. Gyda dau ddigwyddiad mawr y Gymdeithas, mae gennym nifer helaeth o gyfleoedd i chi gwrdd â'ch cynulleidfa darged wyneb yn wyneb, cynyddu ymwybyddiaeth o'ch brand a gwerthu eich cynnyrch.
Stondinau masnach Sioe Frenhinol Cymru
Fel prif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain, mae Sioe Frenhinol Cymru yn denu dros 250,000 o ymwelwyr. Gydag ystod eang o gynhyrchion ar gael, mae'r Sioe yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i fusnesau arddangos a chyrraedd cynulleidfa fawr.
Gwneud cais am stondin fasnach
Stondinau masnach y Ffair Aeaf
Fel un o sioeau da byw dethol gorau Ewrop, mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn cynnig cyfle i fusnesau arddangos cynhyrchion ym meysydd amaethyddiaeth, peiriannau, dillad, nwyddau cartref, anrhegion, crefftau, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes a mwy.
Gwneud cais am stondin fasnach
Gyda channoedd o filoedd o ymwelwyr yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf bob blwyddyn, mae stondinau masnach yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau gysylltu â chwsmeriaid newydd a phresennol.
Gall arddangoswyr stondinau masnach ddisgwyl lefel uchel o amlygrwydd cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiadau... gan eich helpu i gyrraedd nifer fawr o ddarpar gwsmeriaid.
P’un a ydych yn fusnes bach annibynnol sy’n gwerthu cynhyrchion crefftus wedi’u gwneud â llaw, neu’n sefydliad rhyngwladol mawr, mae lleoedd stondinau masnach ar gael sy’n addas i chi.
Pam arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru?
Ffigurau yn seiliedig ar adborth gan fasnachwyr a data ymwelwyr Sioe Frenhinol Cymru.