Dangoswch bod eich brand yn cefnogi un o gymdeithasau amaethyddol mwyaf Ewrop a dewch yn rhan o sefydliad sy’n gwneud cyfraniad blaenllaw at ddatblygu amaethyddiaeth ac economi cefn gwlad Cymru a Phrydain Fawr ers 1904.

Gellir llunio pecynnau nawdd a chyfleoedd yn benodol i weddu i’ch gofynion a’ch cyllideb. P’un ai a oes gennych chi ddiddordeb mewn hysbysebu mewn catalog, noddi dosbarth dangos da byw neu ddod yn brif noddwr un o’r digwyddiadau, mae cyfle ar gael i chi.

Gallai buddion bod yn un o noddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gynnwys:

  • Cysylltiad â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, brand adnabyddus a mawr ei barch yn rhyngwladol
  • Cyfle i gyrraedd at gwsmeriaid newydd a blaenorol, a chyfleoedd i gynyddu eich sylfaen o gleientiaid
  • Cyrraedd at gynulleidfaoedd teledu eang trwy gyfrwng rhaglenni a gaiff eu darlledu cyn, yn ystod ac wedi’r digwyddiadau ar S4C, y BBC ac ITV, ynghyd â darllediadau a gaiff eu ffrydio’n fyw ar-lein yn rhyngwladol
  • Presenoldeb amlwg iawn ar faes y sioe
  • Cyhoeddiadau gan sylwebwyr yn ystod y digwyddiadau
  • Cynnwys eich enw ar wefannau www.rwas.wales a www.cafc.cymru
  • Gostyngiad o 50% wrth hysbysebu yn rhaglenni a chatalogau swyddogol ein digwyddiad
  • Gostyngiad o 50% wrth hysbysebu yn rhaglenni a chatalogau swyddogol ein digwyddiad
  • Tocynnau digwyddiad a bathodynnau noddwyr VIP, gyda gostyngiadau ar docynnau ychwanegol
  • Cyfleoedd i gyflwyno gwobrau yn y cylchoedd

Mae ein noddwyr presennol yn dweud bod dau brif reswm pam eu bod yn parhau i gefnogi ein digwyddiadau:

Mae'n codi proffil brand ac yn ysgogi gwerthiant, gan roi cyfle i fusnesau gysylltu â chleientiaid amaethyddol.

Mae ganddynt angerdd dros gefnogi'r sector amaethyddol, sy'n aml yn ystum dyngarol, yn ogystal â dadleuon masnachol.

Beth am Stondin Fasnach?

Pam na wnewch chi gyfuno eich pecyn noddi gyda gofod stondin fasnach a manteisio ar yr holl fuddion sy’n gysylltiedig â bod yn rhan o ddigwyddiadau Sioe Frenhinol Cymru?

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni:
lois morris
Swyddog Noddi
Ffôn
E-bost

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.