Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn cynnig ystod eang iawn o gyfleoedd masnachol i gwmnïau sy’n cynnig cynhyrchion ym meysydd amaethyddiaeth, nwyddau cartref, anrhegion, celf a chrefft, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, a llawer mwy.
Cyflwynwch eich Datganiad o Ddiddordeb isod i fasnachu yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2026, a gynhelir ddydd Llun 30 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr.
Gwnewch gais am stondin fasnach
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi mynd heibio, fodd bynnag mae croeso i fasnachwyr gyflwyno eu diddordeb rhag ofn y bydd canslo hwyr.
Darllenwch y canllawiau isod cyn cwblhau eich cais:
Cysylltwch â’n Swyddog Stondinau Masnach, Josie Evans, yn [email protected] am ragor o wybodaeth.
Bwyd a Diod
Mae Neuadd Fwyd y Ffair Aeaf yn ymfalchïo mewn arddangos cynnyrch sy’n cael ei dyfu, ei ddatblygu, ei becynnu neu ei gynhyrchu yng Nghymru.
Mae Gwledd | Feast yn bentref bwyd a diod Cymreig pwrpasol sy’n dod â bwyd stryd lleol, cynhyrchwyr crefftus a llwyfan adloniant byw ynghyd.
Cysylltwch â ni
Os hoffech wneud cais am gyfle i arddangos eich cynhyrchion ochr yn ochr â’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, cysylltwch ag Ymgynghorydd y Neuadd Fwyd, Laura Alexander, yn [email protected] neu ffoniwch 07773384569.
![]() |
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni: | ||
|
Josie Evans
Swyddog Stondinau Masnach
|
Ffôn
|
E-bost
|
|
