Wedi’i hadeiladu yn 2010 mewn ymateb i alwadau cynyddol am lecyn arddangos cyfoes, mae’r Neuadd Fwyd yn sefyll ar leoliad dethol ar faes y sioe ar safle’r hen Neuadd Llanelwedd.
Ac mae rhai o’r coed aeddfed a’r nodweddion archeolegol wedi’u cadw fel canolbwyntiau allweddol y datblygiad. Mae rhannau o’r ardd furiog wreiddiol wedi’u cadw hefyd fel nodweddion yn nhirluniad caled y Neuadd Fwyd newydd.
Yn fewnol, mae’r adeilad yn cynnwys neuadd arddangos fawr agored gyda phyllau gwasanaeth tanddaearol mewn mannau strategol. Mae ymolchfeydd ategol a lle storio cyfagos o fewn y cyfadeilad. Mae’r llawr cyntaf yn cynnwys lle agored sy’n addas ar gyfer llawer defnydd megis arddangosfeydd, lansiadau, cynadleddau ayb ac mae wedi’i gyflenwi â chegin fach.
Yn ystod Sioe’r Haf a’r Ffair Aeaf defnyddir yr adeilad fel lleoliad i arddangos bwyd a diod yn unig gydag arddangosfeydd o gynhyrchion a gynhyrchwyd neu a broseswyd yng Nghymru. Mae ar gael i’w hurio trwy gydol gweddill y flwyddyn ac o ystyried ei chwmpas byddai’n addas ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau mawr sydd â’r gallu i eistedd hyd at 500 o giniawyr neu gynulleidfa o tua 1000.
Cafodd seremoni wobrwyo Gwir Flas Cymru, a fu ar y teledu, ei chynnal yno yn 2012 ac ysgogodd y trefnwyr i wneud y sylw fod:
“Y man cyfarfod yn wych ac ni fyddem yn petruso dim wrth argymell eich man cyfarfod i’n cleientiaid.”
Manylion technegol
Hyd yr Ystafell: 47.860m | Lled yr Ystafell: 29m | Arwynebedd Llawr: 1363m² | Gorffeniad y Llawr: Resin Epocsi Hylan
Nodweddion
Toiledau ac ystafell ymolchi
Cyfleusterau i’r anabl
WiFi
Cegin fach
Ystafell gyfarfod ar wahân ar y llawr cyntaf
-
Ffôn 01982 553683
-
E-bost [email protected]