Teithio mewn car

Mae’r maes sioe wedi’i leoli lle mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt ac mae arwyddion clir i’r digwyddiad o bob cyfeiriad.

Mae maes parcio am ddim wedi’i leoli ar ben isaf y maes sioe, dim ond taith gerdded fer i brif fynedfa’r digwyddiadau. Mae man parcio hwylus ar gael yn ein maes parcio i ymwelwyr sy’n arddangos Bathodyn Glas.

Dilynwch gyfarwyddiadau’r marsialiaid traffig a pharcio i sicrhau eich bod yn parcio’n gyflym ac yn ddiogel.

Teithio ar y trên neu fws

Ein gorsaf drên agosaf yw Heol Llanfair, ychydig dros filltir i ffwrdd o’r maes sioe.

Mae gwasanaeth bws rheolaidd y T4 rhwng y Drenewydd a Chaerdydd yn aros yn Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd, sydd ddim ond taith gerdded fer o’r maes sioe.

I gael mwy o wybodaeth ac amserlenni diweddar ewch i:

www.trawscymru.info
www.traveline.cymru

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.