Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad amaethyddiaeth a’r economi gwledig yng Nghymru, ers ei sefydlu yn 1904.
Gyda’i amcanion i wasanaethu buddiannau gorau diwydiant Amaethyddiaeth Cymru, mae’r aelodau’n gwneud cyfraniad hanfodol at sicrhau bod y gymdeithas yn darparu cymorth i fusnesau, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.
Yn rhan hanfodol o ethos Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gall aelodau fod yn falch o’r ffaith eu bod yn cefnogi nodau elusennol y gymdeithas. Cyflawnir y rhain trwy ddarparu gwobrau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau, ynghyd â threfnu a llwyfannu tri digwyddiad ein cymdeithas; yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.
Mae digwyddiadau’r gymdeithas yn dangos gwerth y diwydiant amaethyddol ehangach, gan ddathlu a chyfuno pob elfen o fwyd a ffermio mewn un man. Mae’r diwydiant yn wynebu heriau arwyddocaol iawn, felly mae’n bwysicach nag erioed erbyn hyn i ddangos eich undod a dod yn aelod o’r gymdeithas.
Ynghyd â llu o fuddion a gyngir i aelodau, fe wnaiff eich aelodaeth gynorthwyo’r gymdeithas â’i nod o hyrwyddo elfennau gorau amaethyddiaeth Cymru a sicrhau hirhoedledd ein digwyddiadau annwyl iawn.
Buddion aelodaeth:
- Mynediad am ddim i Sioe Frenhinol Cymru bob dydd
- Mynediad i bafiliynau bwyta’r aelodau
- Mynediad i Far yr Aelodau ‘Maes M’
- Mynediad am ddim i’r eisteddle yn adran yr aelodau (yn ddibynnol ar argaeledd)
- Ffioedd cystadlu da byw rhatach
- Mynediad i ‘Moliant Y Maes’ ar y dydd Sul cyn y Sioe
- Cylchgrawn blynyddol RWAS am ddim
- Hawliau presenoldeb a phleidleisio CCB
- Cymhwystra i bleidleisio mewn etholiadau pwyllgor ymgynghorol sirol
- Cyfle i wneud cais am lain Parc Carafanau Gwyrdd yn Sioe Frenhinol Cymru (Aelodau Teulu ac Oes yn unig)
Pecynnau Aelodaeth ar gyfer 2026
Mae Debydau Uniongyrchol Blynyddol yn cael eu casglu ar 1 Chwefror bob blwyddyn.
Aelodaeth Flynyddol
17 oed ac iau, mae angen prawf o oedran.
Nid yw’n rhoi mynediad i Faes M, Bar yr Aelodau.
| Math o Aelodaeth | Pris hyd at 28 Chwefror | Pris o 1 Mawrth |
|---|---|---|
| Aelodaeth Pobl Ifanc | £60.00 | £65.00 |
| Aelodaeth Unigol 18 oed a throsodd |
£122.00 | £125.00 |
| Aelodaeth Teulu Priod/partner a’u plant 17 oed ac iau. |
£245.00 | £250.00 |
| Llywodraethwr Yn cynnwys breintiau ar gyfer priod/partner sy’n dod gyda chi a phlant 17 oed ac iau. |
£335.00 | £350.00 |
| Is-lywydd Yn cynnwys breintiau ar gyfer priod/partner sy’n dod gyda chi a phlant 17 oed ac iau. |
£525.00 | £550.00 |
Aelodaeth Oes
Mae tanysgrifiadau Aelodaeth Oes yn daladwy fel taliad un-tro neu mewn rhandaliadau dros 4, 7 neu 10 mlynedd.
Llywodraethwr am Oes*
| Math o Aelodaeth | Taliad Untro | Rhandaliadau dros 4 Blynedd | Rhandaliadau dros 7 Mlynedd | Rhandaliadau dros 10 Mlynedd |
|---|---|---|---|---|
| Aelodaeth Oes 1 person |
£2,500 | £625 y flwyddyn | £357.15 y flwyddyn | £250 y flwyddyn |
| Llywodraethwr Oes* | £5,000 | £1,250 y flwyddyn | £714.29 y flwyddyn | £500 y flwyddyn |
| Is-lywydd am Oes* | £7,500 | £1,875 y flwyddyn | £1,071.43 y flwyddyn | £750 y flwyddyn |
*Yn cynnwys breintiau i briod/partner a phlant 17 oed ac iau.
Taliadau
Aelodaeth Flynyddol
Gellir gwneud taliadau gydag Arian Parod, Siec neu Ddebyd Uniongyrchol.
Os byddwch yn cwblhau mandad Debyd Uniongyrchol ar ôl 1 Chwefror, bydd y taliad yn cael ei gymryd ddiwedd y mis ac yna bydd yn ymuno â’r rhediad Debyd Uniongyrchol blynyddol ar 1 Chwefror y flwyddyn olynol.
Dylid gwneud pob siec yn daladwy i RWAS Cyf.
Taliadau Aelodaeth Oes
Gellir talu Aelodaeth Oes yn llawn gydag Arian Parod, Siec neu Ddebyd Uniongyrchol.
Rhaid i unrhyw un sy’n talu mewn rhandaliadau dros 4, 7 neu 10 mlynedd lenwi ffurflen Debyd Uniongyrchol.
Aelodaeth Anrheg
Rhowch yr anrheg o aelodaeth
Mae pecynnau Aelodaeth Flynyddol ac Oes ar gael i’w prynu fel anrhegion.
I brynu aelodaeth anrheg, cysylltwch â’r Swyddog Aelodaeth:
![]() |
Eisiau gwybod mwy am ddod yn aelod? Cysylltwch â ni: |
||
|
Bryony Pritchard
Swyddog Aelodaeth
|
Ffôn
|
E-bost
|
|
