Sicrhewch ddyfodol Sioe Frenhinol Cymru drwy ymateb i ymgynghoriad Ysgolion Llywodraeth Cymru
Gallai holl ysgolion Cymru fod ar agor yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru o 2026 os yw ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar newidiadau i’r flwyddyn ysgol yn cael rhwydd hynt.
Y cynnig yw bod tymor yr haf yn cael ei ymestyn o wythnos, sy’n golygu na fydd ysgolion wedi cau mewn pryd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru. Credwn y gallai hyn beryglu dyfodol y Sioe.
Mae CAFC yn gofyn i’w holl gefnogwyr wrthwynebu’r ymgynghoriad cyn 12 Chwefror 2024.
strwythur-y-flwyddyn-ysgol | LLYW.CYMRU
Darllenwch ein llythyr apêl frys yn manylu ar ein gwrthwynebiadau i’r newidiadau a phwyntiau posibl i’w cynnwys yn eich ymateb i’r ymgynghoriad.
Cadeirydd Cyngor CAFC, Nicola Davies yn egluro sut y byddai newidiadau i ddyddiadau tymhorau ysgol yng Nghymru yn cael effaith ddinistriol ar Sioe Frenhinol Cymru.
Helpwch i ddiogelu ein sioe ac ymatebwch i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru cyn 12fed Chwefror.