Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi dod yn bell ers y dyddiau cynnar hynny ac mae ein dau ddigwyddiad blaenllaw, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae’r llwyddiant hwn wedi caniatáu i faes sioe parhaol yn Llanelwedd gael ei ddatblygu’n helaeth. Cafodd ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn 1963, a saif yng nghanol cefn gwlad hardd Canolbarth Cymru.