Fel prif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain, mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig cyfle heb ei ail i arddangos eich busnes, eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau i filoedd o ymwelwyr o bob cwr o Gymru, y DU a thu hwnt.

Gyda dewis eang iawn o gyfleoedd masnachol ar gael, gall busnesau o amrywiaeth eang o sectorau gysylltu â chwsmeriaid newydd ac arddangos eu cynhyrchion, o amaethyddiaeth a moduro i ddillad, celf a chrefft, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, garddio, nwyddau cartref a llawer mwy.

Cyflwynwch eich Datganiad o Ddiddordeb isod i fasnachu yn Sioe Frenhinol Cymru 2027, a gynhelir o ddydd Llun 19 i ddydd Iau 22 Gorffennaf.

Cyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb

Dyddiadau cau:
Masnachwyr sy’n dychwelyd: 1 Chwefror 2027
Masnachwyr newydd: 1 Mawrth 2027

Darllenwch y canllawiau isod cyn cyflwyno’ch cais:

Cysylltwch â’n Swyddog Stondinau Masnach, Josie Evans, yn [email protected] am ragor o wybodaeth.

Bwyd a Diod

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fusnesau bwyd a diod arddangos eu cynhyrchion a chysylltu â miloedd o ymwelwyr.

Neuadd Fwyd

Mae’r Neuadd Fwyd yn ymfalchïo mewn arddangos cynnyrch sy’n cael ei dyfu, ei ddatblygu, ei becynnu neu ei gynhyrchu yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithredu Lolfa Fusnes a Masnach ar lawr cyntaf y Neuadd Fwyd, a fydd ar gael i bob arddangoswr. Bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei darparu i arddangoswyr llwyddiannus.

Sylwer: rhaid i fusnesau fod wedi’u lleoli yng Nghymru i arddangos yn y Neuadd Fwyd.

Gwledd | Feast

Wedi’i lansio yn 2023, Gwledd | Feast yw’r pentref pwrpasol ar gyfer bwyd a diod Cymreig yn Sioe Frenhinol Cymru, gan ddod â bwyd stryd lleol, cynhyrchwyr crefftus a llwyfan adloniant byw ynghyd mewn awyrgylch hamddenol sy’n addas i’r teulu.

Oes gennych ddiddordeb mewn arddangos?

I drafod cyfleoedd yn y Neuadd Fwyd neu Gwledd | Feast, cysylltwch ag Ymgynghorydd y Neuadd Fwyd, Laura Alexander, yn [email protected] neu ar 07773 384569.

Josie Evans Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni:
Josie Evans
Swyddog Stondinau Masnach
Ffôn
E-bost

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.